Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Prif Swyddog

Prif Swyddog

Trosolwg:

Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn chwilio am Brif Swyddog i arwain Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) fel Sefydliad Corfforedig Elusennol wrth iddi adeiladu ar y gwaith hyrwyddo a datblygu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a wnaed eisoes ym Mlaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.

 

 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
Cyflog: £31,512 - £33,000 + Pensiwn
Dyddiad Cau: 17/10/2022
Amser Cau: 09:00:00
Enw Cyswllt: Thomas Hughes
Ffôn: 01495755861
Lleoliad: Ystafell/Room L4, Alder Suite, Tŷ Mamhilad House C, Ystâd Mamhilad Park Estate, Pont-y-pŵl, Torfaen, Cymru, NP4 0HZ
Disgrifiad:


Cefndir

Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-

•      Ymateb a cydymffurfio ag anghenion corff rheoleiddio y Comisiwn Elusennol ac adrodd yn ôl fel yr angen.

 

•      Ymateb i anghenion a gweithdrefnau adrodd i Fwrdd Ymddiriedolwyr gan sicrhau bod gweithdrefnau’r Fenter yn cydfynd ac yn unol â Chyfansoddiad/Dogfen Lywoidraethu’r sefydliad.

 

•      Rheoli cyllideb a chyllid y Fenter ar y cyd â chwmni cyfrifon allanol i gadw cyfrifon cyfredol a chywir

 

•      Sicrhau arweinyddiaeth mewn cyflawni marc ansawdd Elusen Ddibynadwy i’r Fenter a'i wreiddio yng ngwaith ac ethos y Fenter.

 

•      Cydlynu a datblygu gwaith y Fenter drwy adnabod ffyrdd o hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn yr ardal trwy gynllunio gweithgareddau gyda phartneriaid lleol.

 

•       Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ardal y fenter a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sectorau.

 

•       Mewn cydweithrediad â Bwrdd Ymddiriedolwyr, datblygu Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer cyfnod 2023-2026 a Cynlluniau Gweithredu blynyddol Fenter er mwyn gosod cyfeiriad pendant, a sicrhau bod y Fenter yn cyrraedd nodau a thargedau’r Llywodraeth.

 

•       Rheoli a monitro staff y Fenter (staff cyflogedig, staff achlysurol ein clybiau plant a gwirfoddolwyr).

 

•       Cydweithio â Thrysorydd y Fenter er mwyn rheoli cyllideb a chyllid y Fenter a sicrhau taliadau tryloyw a phrydlon gan gynnwys cyflogau staff parhaol ac achlysurol

 

•       Rheoli gwaith marchnata y Fenter.

 

•       Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol blynyddol y Fenter i Lywodraeth Cymru ynghyd â pharatoi adroddiadau cynnydd chwarterol a chyflwyno’r wybodaeth fel bo’r galw i’r Llywodraeth.

 

•       Llunio a chyflwyno ceisiadau ariannol er mwyn denu nawdd o ffynonellau amrywiol

 

•       Creu partneriaethau cryf gyda chyrff eraill yn ardal y Fenter a chynrychioli’r Fenter ar bwyllgorau’r Partneriaid.

 

•       Cydlynu a sicrhau adroddiadau ar gynnyd amserol a chynhwysfawr I’r Llywodraeth yn ol y galw

 

•       Cydweithio ag asiantaethau perthnasol ynglyn a’i chynlluniau Iaith a’r Safonau.



Manyleb person

•      Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifendig yn hanfodol

 

•      Dealltwriaeth o ddiwylliant, demograffeg ac anghenion ieithyddol y De ddwyrain a thair sir y Fenter yn benodol.

 

•       Profiad o arwain tîm bychan i ddatblygu sefydliad cynhaliol gyda systemau llywodraethu clir a chadarn.

 

•      Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau

 

•      Dealltwriaeth o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio a Chynlluniau Grant yr Iaith Gymraeg.

 

•      Profiad o wella busnes parhaol

 

•      Profiad o gynllunio gwariant a rheoli cyllid sylweddol

 

•      Dealltwriaeth o’r maes gofal plant a phrosesau diogelu ac amddiffyn plant

 

•      Profiad o drefnu amryw o weithgareddau gan ystyried materion diogelu a casesiadau risg.

 

•      DBS cyfredol


•      Trwydded yrru gyfredol a char

Telerau’r Swydd

Cyflog: £31,152 - £33,000 (yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad)

Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol

Costau Teithio

Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM

Oriau Gwaith

37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser. Bydd cyfle i weithio o gartref yn achlysurol.

Gwyliau

28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)

Hyd y Cytundeb

Parhaol

Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.

Strwythur Rheoli

Byddwch yn atebol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac i’r Cadeirydd/Ymddiriedolwr o ran rheolwr llinell.

Lleoliad swyddfa’r Fenter

Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C

Llawr Cyntaf Gogledd

Ystad Parc Mamhilad Park

Pontypŵl

NP4 0HZ

*

Dyddiad Cau: 17 Hydref 2022

Cyswllt: Thomas Hughes

thomas@menterbgtm.cymru

Dychwelwch y ffurflen drwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 9am, Dydd Llun, 17 Hydref 2022

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Ffurflen Gais

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Uwch Swyddog Rheoleiddio

Cyfarwyddwr Castell Aberteifi

Swyddog Ti a Fi Sir Ddinbych