Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Prif Swyddog
Prif Swyddog
Trosolwg:
Rydym yn awyddus i benodi person â chymwysterau addas gyda sgiliau arwain profedig ac sy’n egnïol a blaengar i arwain Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, sef mudiad elusennol sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl yng Ngogledd-orllewin Cymru.
Os oes gennych chi’r brwdfrydedd, yr ymrwymiad a’r uchelgais i wneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr di-dâl, yna medrai’r cyfle swydd ffantastig hwn fod yn berffaith i chi.
Disgrifiad:
Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yw’r prif fudiad sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Wedi’i sefydlu ym 1991, daeth y mudiad yn elusen gofrestredig ym 1997, ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gan sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn ganolog i bopeth a wna.
Mae gofalwyr di-dâl yn parhau i wynebu heriau di-ri, ac mae mwy o lawer y medrir ei wneud o hyd i wella a chefnogi eu bywydau ymhellach.
Ydych chi’n barod am yr her hon?
Am ragor o wybodaeth a phecyn cais, cysylltwch â Julie Oatey ar help@carersoutreach.org.uk i ofyn am becyn swydd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner dydd, 6 Mehefin 2022
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Prif Swyddog
Cysylltiad Prif Swyddog