Prif Swyddog Cynnwys

Prif Swyddog Cynnwys

Trosolwg:

Dyma gyfle gwych i unigolyn rhagorol i ymuno â S4C ar adeg drawsnewidiol yn ei hanes.

Mae rôl y Prif Swyddog Cynnwys yn allweddol i ddatblygu strategaeth cynnwys feiddgar ac arloesol, sy'n gwasanaethu cynulleidfa eang ac yn denu siaradwyr newydd at y Gymraeg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: S4C
Cyflog: Bydd cyflog a gynigir yn gymesur â swyddogaeth a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus.
Dyddiad Cau: 21/01/2025 (3 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Un o swyddfeydd S4C Caerfyrddin/Caerdydd/Caernarfon. Rydym hefyd yn gweithredu cynllun gweithio Hybrid. Bydd disgwyl ichi fynychu holl swyddfeydd S4C yn rhinwedd eich swydd.
Disgrifiad:

Dyma gyfle gwych i unigolyn rhagorol i ymuno â S4C ar adeg drawsnewidiol yn ei hanes.

Mae rôl y Prif Swyddog Cynnwys yn allweddol i ddatblygu strategaeth cynnwys feiddgar ac arloesol, sy'n gwasanaethu cynulleidfa eang ac yn denu siaradwyr newydd at y Gymraeg.

Yn arweinydd ysbrydoledig, gydag agwedd greadigol ynghyd â thystiolaeth amlwg o'r gallu i reoli unigolion, timau a perthynas partneriaid mewn ffordd deg a chymodol, byddwch yn berchen ar sgiliau rhyngbersonol eithriadol, yn gyfathrebwr/wraig naturiol gyda lefel uchel o ddeallusrwydd emosiynol a'r gallu i greu a diwallu datrysiadau arloesol.

Bydd gennych ddealltwriaeth glir o anghenion newidiol cynulleidfaoedd yn yr oes ddigidol a gweledigaeth ar gyfer comisiynu cynnwys gafaelgar ar gyfer amrywiol blatfformau S4C. Byddwch yn creu yr amgylchedd i feithrin a datblygu talent newydd yng Nghymru.

Byddwch yn craffu ar ddata i anelu yn barhaus i dyfu ac ehangu ein cynulleidfaoedd, a bydd gennych feddwl craff ac ymwybyddiaeth fasnachol fydd yn gwneud y defnydd gorau o'r ffi drwydded.

Bydd gennych brofiad sylweddol o gynhyrchu a chomisiynu cynnwys ynghyd ag hygrededd ac enw da o fewn y sector gynhyrchu a'r byd darlledu. Byddwch yn gyfathrebwr cryf fydd yn medru siarad ar ran S4C i feithrin perthnasau cryf a buddiol gyda phartneriaid.

Bydd y Prif Swyddog Cynnwys yn aelod o Dîm Arweinyddiaeth S4C a Bwrdd Unedol S4C.

Mae'r gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17:00 ar ddydd Mawrth 21 Ionawr 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Bydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg neu'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, croeso i chi gysylltu â pobl@s4c.cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Ffurflen Gais

Disgrifiad Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg

Penodi Aelodau o’r Grŵp - Y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth

Busnes Cymru - Cynghorydd Datblygu Busnes