Prif Swyddog Cymraeg i Blant De Ddwyrain

Prif Swyddog Cymraeg i Blant De Ddwyrain

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio ar y cyd gyda darpariaethau Mudiad Meithrin.  Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.  Bydd disgwyl i’r person fod yn swyddog cyswllt i bartneriaid allanol a Chymraeg i Blant.  Yn ychwanegol i hynny bydd disgwyl i’r person greu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod eang o bartneriaid a rhwydweithiau sydd yn cefnogi rhieni.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Mudiad Meithrin
Cyflog: MM25 -MM28: £32,712 - £35,641 pro rata. Gwir gyflog ar sail gweithio 30 awr yr wythnos £26,169 - £28,512
Dyddiad Cau: 01/06/2025 (17 diwrnod)
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: Dinah Ellis
Ffôn: 01970 639639
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bod yn atebol i  Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy Reolwr Cenedlaethol Cymraeg i Blant am gyflawni’r dyletswyddau canlynol: 

•    Cyfrannu at a gweithredu Cynllun Strategol Partneriaethau Cenedlaethol i sicrhau isadeiledd cryf o ran cydweithio rhwng Swyddogion Cymraeg i Blant a phartneriaid allweddol.
•    Adnabod a llunio rhaglen unigryw o weithgareddau gwerthfawr, pwrpasol a defnyddiol i rieni newydd a darpar rieni (sy’n cynnwys tadau, teuluoedd DALlE a rhieni-cu) trwy ymgynghori â’r gynulleidfa darged.
•    Creu perthynas a chreu cyfleoedd i gydweithio gydag ystod o bartneriaid amlwg a llai amlwg, er mwyn sicrhau bod negeseuon pwrpasol, amserol a chyson yn cael eu rhaeadru i deuluoedd i’w cefnogi i drosglwyddo’r Gymraeg, defnyddio’r Gymraeg, a’u cynorthwyo ar hyd y daith o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg o’r cychwyn cyntaf.
•    Cydweithio gyda rhwydweithiau allweddol megis y sector iechyd, Awdurdodau Lleol, Plant yng Nghymru a Dechrau Da i rannu syniadau am raglenni cefnogaeth i rieni.
•    Cynnal hyfforddiant/cyflwyniadau i dimoedd Ymwelwyr Iechyd, Bydwragedd a myfyrwyr dan hyfforddiant a mynychu digwyddiadau cyn/ôl eni pam fo’r cyfle’n codi.
•    Llunio cynllun rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb y gwaith a modd i staff fesur effaith a chynllunio’n bwrpasol ar gyfer targedu rhieni a darpar-rieni.
•    Darparu gwybodaeth ymarferol a defnyddiol ynghyd ag ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol i rieni am daith y plentyn i addysg Gymraeg.
•    Cydweithio â phartneriaid lleol megis y Mentrau Iaith i drefnu a chynnal digwyddiadau hwyliog i deuluoedd a chefnogi gwyliau cenedlaethol megis yr Eisteddfodau a Tafwyl.
•    Cydweithio gyda Rheolwyr Talaith Mudiad Meithrin er mwyn adnabod ardaloedd targed i gynnal grwpiau cefnogi i rieni.
•    Mynychu cyfarfodydd partneriaid allweddol megis Awdurdodau Lleol, Fforymau Iaith yn ôl yr angen (wyneb yn wyneb a rhithiol).
•    Paratoi adroddiadau rheolaidd yn mesur llwyddiant Strategaeth Partneriaethau yn unol â’r targedau.
•    Gweithredu fel rheolwr llinell i dîm o Swyddogion Cymraeg i Blant.
•    Mynychu cyfarfodydd tîm cenedlaethol a chynnal cyfarfodydd tîm lleol yn reolaidd.  Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y gofyn.
•    Ar y cyd â’r Rheolwr Cenedlaethol a’r Prif Swyddog eraill, trefnu hyfforddiant proffesiynol parhaus a rhannu arfer dda i’r tîm o staff.
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth Cymraeg i Blant yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Cenedlaethol neu Brif Weithredwr.
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Arweinydd Marchnata Digidol

Cydlynydd Marchnata Cymdeithasol

Actorion / Hwyluswyr Creadigol