Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Prif Swyddog – Cyfathrebu â Myfyrwyr a Gwasanaethau Derbyn
Prif Swyddog – Cyfathrebu â Myfyrwyr a Gwasanaethau Derbyn
Trosolwg:
Mae’r Prif Swyddog – Cyfathrebu â Myfyrwyr a Gwasanaethau Derbynfa yn aelod allweddol o dîm yr Hwb Myfyrwyr, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau myfyrwyr PCYDDS.
Disgrifiad:
Prif Swyddog – Cyfathrebu â Myfyrwyr a Gwasanaethau Derbyn
Campws Abertawe neu Gaerfyrddin, gan weithio o amgylch lleoliadau eraill yr Hwb yn ôl yr angen.
Graddfa 6 £33,966 - £38,205 flwyddyn
-Y RÔL -
Mae’r Prif Swyddog – Cyfathrebu â Myfyrwyr a Gwasanaethau Derbynfa yn aelod allweddol o dîm yr Hwb Myfyrwyr, sef y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau myfyrwyr PCYDDS.
Mae’r rôl yn gofyn am bwyslais cryf ar wasanaeth cwsmeriaid a bydd yn arwain yn benodol hefyd ar ddau brif faes gweithgarwch yr Hwb:
• Rheoli swyddogaeth dderbyn y Brifysgol, a darparu rheolaeth llinell effeithiol ar gyfer tîm y staff derbyn; a
• Threfnu a gweithredu dulliau cyfathrebu’r Hwb ar draws pob sianel, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, cynnwys digidol, ap yr Hwb a chynnwys y bwletin myfyrwyr.
- Y GYMRAEG -
Mae’r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
- GWYBODAETH YCHWANEGOL -
- I gael gwybodaeth am ein buddion i staff, copïwch a gludo’r ddolen hon i mewn i’ch porwr: www.uwtsd.ac.uk/cy/amdanom/swyddi
- Gallai’r swydd hon fod yn gymwys am nawdd yn amodol ar ofynion trothwy cyflog y Swyddfa Gartref https://www.gov.uk/skilled-worker-visa/your-job
- Nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. O’r herwydd, caiff eich cais ei asesu ar sail eich cais a’ch datganiad ategol
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *