Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Prentis Gwyddor Data
Prentis Gwyddor Data
Trosolwg:
Nid cyfle yn unig i rywun sy'n dechrau yn y byd gwaith yw hwn. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.
Disgrifiad:
Ynglŷn â'r swydd hon
Amdanom Ni: Archwilio Cymru yw corff archwilio'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy'n ymroddedig i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Rydym yn darparu sicrwydd annibynnol ac yn hyrwyddo gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru.
Y Cyfle:
Ydych chi'n cael eich sbarduno gan niferoedd, tueddiadau a graffiau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Hoffech chi gael y cyfle i ennill tra byddwch chi'n dysgu?
Os yw'r ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r uchod, gallai'r Brentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru fod yn berffaith i chi.
Mewn byd sy'n cael ei lywio fwyfwy gan ddata, gallai prentisiaeth mewn gwyddor data eich gosod ar wahân i'r gystadleuaeth yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Mae ein rhaglen tair blynedd arloesol, wedi'i hariannu'n llawn, yn darparu cyfle unigryw i ddod yn ddadansoddwr medrus.
Nid cyfle yn unig i rywun sy'n dechrau yn y byd gwaith yw hwn. Efallai eich bod yn chwilio am newid gyrfa. Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran oedran. Mae'r brentisiaeth yn rhaglen tair blynedd wedi'i hariannu'n llawn sy'n eich ategu i ennill gradd mewn gwyddor data tra'n datblygu profiad gwerthfawr yn y swydd.
Byddwch yn ennill ystod gynhwysfawr o sgiliau a phrofiadau dadansoddol, tra'n cyfrannu'n weithredol at waith pwysig Archwilio Cymru.
Cyfrifoldebau allweddol:
Bydd y prentis yn gweithio yn y tîm Dadansoddi Data, sy'n gyfrifol am wella pob agwedd ar y ffordd y mae Archwilio Cymru yn defnyddio data. Yn eich swydd byddwch yn ymuno â thîm heini sydd â chysylltiadau agos â phob rhan o'r busnes. O ddydd i ddydd, byddwch yn cymryd rhan mewn cyflawni'r swyddogaethau craidd hyn:
- Arwain ymchwil a datblygu i dechnegau ac offer data arloesol.
- Adeiladu offer data sydd ag effaith a'u gwreiddio fel rhan arferol newydd o'n gwaith.
- Sbarduno moderneiddio archwiliad ariannol a pherfformiad drwy ei wneud yn fedrus o ran data.
- Rheoli setiau data allweddol yn ganolog i sicrhau bod data safonol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau.
- Gweithio ochr yn ochr â thimau archwilio a chorfforaethol i'w galluogi i adeiladu offer/cynhyrchion data 'cod isel'.
- Sgrinio’r holl gynhyrchion data cyn eu cyhoeddi fel cam rheoli ansawdd ychwanegol.
- Hyrwyddo llythrennedd data ar gyfer yr holl staff, er mwyn gwella'r diwylliant data yn Archwilio Cymru.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:
- Hyfforddiant a mentoriaeth cynhwysfawr
- Amgylchedd gwaith cynorthwyol a chynhwysol
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfa posibl
Pecyn cyflog a budd-daliadau
- £27,601- 33,596
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol
- 35 awr o waith yr wythnos.
- Absenoldeb astudio â thâl un diwrnod yr wythnos i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd
- Gostyngiadau ar y stryd fawr
- Trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid
Gofynion hanfodol:
- Tair Lefel A ar radd B neu uwch (neu gymwysterau cyfatebol), gan gynnwys o leiaf un pwnc STEM.
- Rhywfaint o allu rhaglennu / codio
- Sgiliau da mewn TG, dadansoddi a datrys problemau
- Sgiliau llafar, ysgrifenedig a rhyngbersonol da
- Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Prentis Gwyddor Data
Cysylltiad Prentis Gwyddor Data