Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Prentis Digwyddiadau Chwaraeon (Datblygu Chwaraeon) Lefel 3

Prentis Digwyddiadau Chwaraeon (Datblygu Chwaraeon) Lefel 3

Trosolwg:

Nod y swydd fydd i gynorthwyo swyddogion digwyddiadau Chwaraeon i gynyddu’r gyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwaraeon rhanbarthol a genedlaethol, drwy'r cyfrwng y Gymraeg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Urdd Gobaith Cymru
Cyflog: Cyflog Cenedlaethol yn ôl oedran
Dyddiad Cau: 13/01/2025
Amser Cau: 23:30:00
Enw Cyswllt: Tomos Birkhead
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Teitl y Swydd:  Prentis Digwyddiadau Chwaraeon (Datblygu Chwaraeon) Lefel 3 

Math o gontract:  Tymor penodol (13 mis), llawn amser (35 awr yr wythnos) 

Graddfa:  Cyflog Cenedlaethol yn ôl oedran

Lleoliad:  Swyddfa Llanishen, Caerdydd 

Dyddiad Cau:  Dydd Llun, 13 Ionawr 2025

Dyddiad Cyfweld:  i'w gadarnhau

 

Y Swydd

Nod y swydd fydd i gynorthwyo swyddogion digwyddiadau Chwaraeon i gynyddu’r gyfranogaeth plant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwaraeon rhanbarthol a genedlaethol, drwy'r cyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon Cenedlaethol ar tomosbirkhead@urdd.org

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd â'r Ffurflen Cyfle Cyfartal ar e-bost at swyddi@urdd.org

Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb o bob cefndir a chymuned, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

Amdanom ni

Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.

Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.

Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith ar bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Cyfle Cyfartal

Ffurflen Gais

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Prif Swyddog Cynnwys

Penodi Aelodau o’r Grŵp - Y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth

Clerc Cyllid Iau