Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Swyddog Pobl a Diwylliant

Swyddog Pobl a Diwylliant

Trosolwg:

Mae gan S4C weithlu anhygoel ac ymroddedig o tua 125 o unigolion wedi eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac yn gweithio yn hybrid o'u cartrefi.

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â ni. Yn dilyn cyfnod heriol, yr ydym am sicrhau ffocws ar ein pwrpas a'n blaenoriaethau strategol. Yn ganolog i lwyddiant hyn bydd sicrhau fod gan S4C amgylchedd gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol, sy'n buddsoddi yn ei gweithlu i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn perfformio'n dda a fydd yn sicrhau arlwy aml blatfform ardderchog ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Fel aelod o'r adran Gorfforaethol, bydd y Swyddog Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am weithredu nifer o'r newidiadau cyffroes sydd i ddod. Byddwch yn cyfrannu at ddenu, cadw a datblygu gweithlu amrywiol a thalentog, a chreu amgylchedd sy'n caniatáu i bawb sy'n gweithio gyda ni deimlo'n ddiogel a bod y gorau y gallent fod.

Mae hon yn rôl sy'n weladwy ar bob lefel, a bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y sefydliad yn cynnwys ein staff a'u cynrychiolwyr ynghyd â'n partneriaid.

Rydym yn chwilio am Swyddog sydd yn gallu cefnogi'r Rheolwr Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Pobl a Diwylliant wrth weithredu'r dydd i ddydd ar draws amryw o elfennau sydd yn ymwneud ag Adnoddau Dynol. Bydd angen i chi allu cynghori a rhoi cymorth i staff a rheolwyr wrth ddilyn polisïau mewnol ar amryw o bynciau.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a'r Saesneg i safon uchel yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: S4C
Cyflog: £33,000 - £35,000 yn unol â phrofiad.
Dyddiad Cau: 24/07/2024
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi deithio yn eithaf rheolaidd fel rhan o’ch swydd. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon, Caerfyrddin ac yng Nghaerdydd o bryd i’w gilydd.
Disgrifiad:

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £33,000 - £35,000 yn unol â phrofiad.

Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cytundeb: Parhaol

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Hyfforddiant: Cefnogaeth i gwblhau cymhwyster CIPD lefel 5.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 29 Gorffennaf 2024

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Manylion Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)

Swyddog Adnoddau Dynol

Gweinyddwr Gweithrediadau