Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Penodi Aelodau'r Cyngor - Cyngor Celfyddydau Cymru
Penodi Aelodau'r Cyngor - Cyngor Celfyddydau Cymru
Trosolwg:
Mae Llywodraeth Cymru'n gwahodd ceisiadau i ddau unigolyn wasanaethu fel aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yr unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Cyngor Celfyddydau Cymru i gyflawni ei flaenoriaethau strategol o hyrwyddo diwylliant bywiog, amrywiol a chynhwysol a sector gelfyddydol sy'n gynaliadwy ac arloesol.
Disgrifiad:
CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU
Penodi Aelodau
Cyngor Celfyddydau Cymru
Aelodau’r Cyngor
Ydych chi'n credu bod y celfyddydau'n gallu newid bywydau?
Ydych chi'n credu y dylen nhw fod ar gael i bawb?
Ydych chi'n ymwybodol o effaith y celfyddydau a’u manteision i iechyd, cyfoeth a llesiant yng Nghymru?
Cyfleoedd cyffrous i gyfrannu at ddatblygiad y celfyddydau yng Nghymru
Aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru
Tua 1.5 diwrnod y mis
Di-dâl, bydd costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu talu
Mae Llywodraeth Cymru'n gwahodd ceisiadau i ddau unigolyn wasanaethu fel aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yr unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol wrth helpu Cyngor Celfyddydau Cymru i gyflawni ei flaenoriaethau strategol o hyrwyddo diwylliant bywiog, amrywiol a chynhwysol a sector gelfyddydol sy'n gynaliadwy ac arloesol.
Bydd y penodiad yn dechrau 1 Ebrill 2025 ac os byddwch yn cael eich penodi, byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyflawni ymrwymiadau polisi strategol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo diwylliant cyfoethog ac amrywiol, a sector celfyddydau cynaliadwy, hyfyw ac arloesol.
Mae disgwyl i Aelodau’r Cyngor:
· Gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Cyngor a chyfrannu atynt yn effeithiol, yn enwedig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, gosod a chyflawni amcanion heriol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru;
· Adolygu, craffu, herio a chefnogi’r Weithrediaeth;
· Hyrwyddo safonau uchel o uniondeb wrth reoli arian cyhoeddus, a sicrhau bod gweithgareddau'r Cyngor yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra ac uniondeb;
· Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol;
· Gweithio fel rhan o Gyngor sy'n gwerthfawrogi gwahaniaeth ac yn herio ymddygiadau anymwybodol;
· Penodi Prif Weithredwr, os oes angen, ar ôl cael sêl bendith Llywodraeth Cymru; a
· Chymryd rhan weithredol mewn gwaith i ehangu mynediad a chreu sector a sefydliad Celfyddydol cynhwysol yn unol â Chynllun Gweithredu Cyngor Celfyddydau Cymru ar Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Gweithredu LHDTQ.
Er mwyn cryfhau a chydbwyso Aelodaeth y Cyngor a chyflawni blaenoriaethau strategol dros y tair blynedd nesaf, bydd angen i'r Aelodau ddangos y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer eu penodi: Mae manyleb lawn y person a'r meini prawf hanfodol wedi'u cynnwys ym mhecyn gwybodaeth yr ymgeiswyr.
Bydd y penodiad am dymor cychwynnol o dair blynedd ac fe fydd angen ymrwymiad o 1.5 diwrnod y mis ar fusnes y Cyngor a bydd angen mynychu holl gyfarfodydd y Cyngor mewn lleoliadau amrywiol yng Nghymru. Mae'r swyddi hyn yn ddi-dâl er y bydd costau teithio a chynhaliaeth yn cael eu had-dalu.
Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai cyrff cyhoeddus gael aelodau o'r bwrdd sy'n adlewyrchu cymdeithas Cymru - pobl o bob cefndir - i'w helpu i ddeall anghenion pobl a gwneud penderfyniadau gwell. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru'n annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am benodiad i gyrff cyhoeddus. Mae croeso arbennig i geisiadau gan bob grŵp sydd wedi'u tangynrychioli, gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, aelodau o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Ionawr 2025 am 16:00. Ni chaiff ffurflenni cais a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried.
Gallwch weld fersiwn print bras, Braille neu sain o'r hysbyseb hon drwy gysylltu â 03000 255454
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Penodi Aelodau'r Cyngor - Cyngor Celfyddydau Cymru
Cysylltiad Penodi Aelodau'r Cyngor - Cyngor Celfyddydau Cymru