Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Pennaeth
Pennaeth
Trosolwg:
Mae Ysgol Botwnnog yn anelu at gyflwyno addysg o’r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o’i gweithgareddau.
Disgrifiad:
Mae Ysgol Botwnnog yn anelu at gyflwyno addysg o’r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o’i gweithgareddau.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
· Yn arweinydd cryf, cadarn a brwdfrydig
· Yn meddu ar sgiliau rheolaeth rhagorol
· Yn meddu ar y sgiliau i ysgogi ac ysbrydoli disgyblion yr ysgol.
· Yn gwbl ymrwymedig i ethos Gymreig yr ysgol ac i addysg ddwyieithog gyflawn o’r safon uchaf.
· Yn meddu ar y cymhwyster CPCP (NPQH) erbyn dyddiad dechrau’r swydd neu sydd eisoes mewn swydd barhaol fel Pennaeth.
· yn ymrwymedig i lwyddiant parhaol yr Ysgol ac a’r gallu i gymell staff a disgyblion.
Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â’r Pennaeth Cynorthwyol Uwchradd, Mr Gwyn Tudur (01286 679958).
Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU 12:00, Dydd Mawrth, Mawrth 5ed, 2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y bod modd iddynt gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth Swydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *