Pennaeth Ymgyrchoedd
Pennaeth Ymgyrchoedd
Trosolwg:
Mae'r Pennaeth Ymgyrchoedd yn aelod o dîm staff uwch Plaid Cymru, gan adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr. Yn y dyfodol agos bydd deiliad y swydd yn llywio’r ymgyrch ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2026 tra hefyd yn paratoi’r blaid ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol ar draws Gymru gyfan yn 2027.
Disgrifiad:
PENNAETH YMGYRCHOEDD
Teitl Swydd: Pennaeth Ymgyrchoedd
Lleoliad: Pencadlys Plaid Cymru, Glanfa’r Iwerydd, Cardiff
Mae staff Plaid Cymru yn gweithredu patrwm cymysg o weithio Swyddfa a gweithio o bell.
Math o gontract: Llawn Amser
Hyblyg – Mae Plaid Cymru yn hapus i drafod amryw o ffyrdd o weithio hyblyg petasai deilydd y swydd yn dymuno gwneud y rol arsail rhannu swydd neu rhan amser.
Rheolwr Llinell: Prif Weithredwr
Cyflog: Band Uwch Gynghorydd (£43,296-£52,737)
Fel arfer gwneir pendodiadau tua gwaelod y raddfa
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos, gyda’r angen am weithio min-nos a phenwythnos yn achlysurol. Mae Plaid Cymru yn gweithredusystem weithio oriau hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn, yn ogystal a diwrnodau braint ychwanegol.
Pwrpas y Swydd:
Mae'r Pennaeth Ymgyrchoedd yn aelod o dîm staff uwch Plaid Cymru, gan adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr. Yn y dyfodol agos bydd deiliad y swydd yn llywio’r ymgyrch ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2026 tra hefyd yn paratoi’r blaid ar gyfer etholiadau Llywodraeth Leol ar draws Gymru gyfan yn 2027.
Bydd y Pennaeth Ymgyrchoedd yn arwain gwaith Uned Ymgyrchu Cenedlaethol y Blaid, gan reoli ei staff, tra hefyd yn cysylltu’n agos gyda chydweithwyr ym meysydd Cyfathrebu, Polisi, a Chyllid a Chydymffurfiaeth.
Mae’r rôl yn gweithio’n agos gyda Phwyllgor Ymgyrchoedd Cenedlaethol y blaid, sy’n un o is-bwyllgorau’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.
Prif Gyfrifoldebau:
Cymryd cyfrifoldeb am waith yr Uned Ymgyrchu, datblygu gweithgareddau a seilwaith ymgyrchu’r blaid, cysylltu â’r blaid wirfoddol, a gosod y blaid ar flaen y gad o ran arloesi wrth ymgyrchu, yn unol â strategaethau a chyllidebau y cytunwyd arnynt.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
• Cydlynu gwaith yr Uned Ymgyrchu
• Cynnal a datblygu gwaith arolwg barn a phroffilio pleidleiswyr y blaid
• Rheoli a datblygu gwaith cyswllt uniongyrchol y blaid â phleidleiswyr
• Datblygu defnydd y blaid o dechnegau newydd ac ymgyrchu arloesol
• Darparu mewnbwn strategol i strategaeth gyffredinol a datblygiad polisi
• Darparu cyngor a chefnogaeth i etholaethau ac ymgyrchwyr llawr gwlad
• Cynllunio strategol a rheolaeth o raglenni hyfforddi’r Blaid ar gyfer gwirfoddolwyr, ymgeiswyr ac aelodau etholedig
• Datblygu a rheoli cyllideb ymgyrchoedd cyffredinol, a chyllidebau penodol ar gyfer etholiadau, mewn cysylltiad â thîm Cyllid y blaid.
• Sicrhau cydymffurfiaeth ar bob lefel â'r rheoliadau a osodir gan y Comisiwn Etholiadol a Swyddogion Canlyniadau lleol.
• Gweithredu fel Swyddog Enwebu'r blaid
• Cynrychioli'r blaid yn ôl yr angen mewn trafodaethau gyda'r Comisiwn Etholiadol, y Comisiwn Ffiniau ac awdurdodau seneddol ar faterion yn ymwneud ag etholiadau, a gyda phleidiau eraill.
• Gwneud cyflwyniadau a pharatoi adroddiadau yn ôl yr angen i'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol a'r Cyngor Cenedlaethol.
• Dyletswyddau eraill o'r fath sy'n gyson â hyrwyddo blaenoriaethau ymgyrchu'r blaid, a ddirprwyir gan y Prif Weithredwr.
Sgiliau a Phrofiad Allweddol:
Hanfodol:
• Ymrwymiad i Blaid Cymru a'i hamcanion gwleidyddol
• Dealltwriaeth o dechnegau ymgyrchu modern a'r gallu i ddysgu ac addasu i ddulliau newydd.
• Dealltwriaeth o ddatblygiadau technolegol mewn ymgyrchu, canfasio a meddalwedd cyfathrebu
• Y gallu i ennyn brwdfrydedd eraill ac arwain mentrau hyfforddi i uwchsgilio staff a gwirfoddolwyr
• Y gallu i gyfathrebu'n dda ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd
• Ymwybyddiaeth o safonau a moeseg y blaid mewn perthynas ag uniondeb a hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth
Dymunol:
• Y gallu i gyfathrebu’n rhugl ac effeitihol yn y Gymraeg a’r Saesneg
Ceisiadau: Gyrru'r ffurflen gais wedi ei llenwi i paula.reed@plaid.cymru
Cwestiynau: owen.roberts@plaid.cymru
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Pennaeth Ymgyrchoedd
Cysylltiad Pennaeth Ymgyrchoedd