Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Pennaeth Mwy Na Geiriau ac Uned y Gymraeg
Pennaeth Mwy Na Geiriau ac Uned y Gymraeg
Trosolwg:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno ag AaGIC fel Pennaeth Mwy Na Geiriau a'n Huned Gymraeg – Band 8c.
Disgrifiad:
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno ag AaGIC fel Pennaeth Mwy Na Geiriau a'n Huned Gymraeg – Band 8c.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Trosolwg:Mae GIG Cymru yn chwilio am arweinydd deinamig a phrofiadol ar gyfer swydd Pennaeth Mwy Na Geiriau ac Uned yr Iaith Gymraeg - Band 8c. Mae hon yn rôl genedlaethol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r Cynllun Mwy Na Geiriau (MNG), llunio dull cenedlaethol o integreiddio gwasanaethau Cymraeg ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a hefyd arwain ein huned Gymraeg. Mae hwn yn gyfle i ddylanwadu ac ysgogi gwelliannau wrth gyflwyno gwasanaethau dwyieithog, gan wella ansawdd gofal a chanlyniadau i unigolion.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Prif Gyfrifoldebau:
- Arweinyddiaeth Strategol: Darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol i sicrhau gweithrediad effeithiol y Cynllun MNG ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
- Datblygu Polisi Cynllunio a gweithredu safonau data cenedlaethol, metrigau, polisïau, a gweithdrefnau i gefnogi gwasanaethau Cymraeg.
- Cydweithio: Datblygu a chynnal rhwydweithiau cydweithredol ledled GIG Cymru i rannu arferion gorau a meincnodi cynnydd.
- Rheoli Data: Gwella prosesau casglu data ynghylch sgiliau iaith Gymraeg o fewn gweithlu’r GIG a myfyrwyr gofal iechyd.
- Arweiniad a Chefnogaeth: Cynnig cymorth ac arweiniad cenedlaethol, gan ymgorffori arferion gorau ar draws GIG Cymru.
- Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid i hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth a sicrhau bod Cynllun Mwy na Geiriau yn cael ei gyflawni.
- Hyfforddiant a Hyrwyddo: Goruchwylio ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol a rhaglenni hyfforddi i hybu’r defnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
- Adrodd a Dadansoddi: Paratoi adroddiadau strategol a briffiau, gan ddadansoddi data cymhleth i lywio penderfyniadau polisi a gwelliannau i wasanaethau.
- Uned iaith Gymraeg. Cyfrifoldeb rheolwr llinell cyffredinol am yr uned iaith Gymraeg, darparu Gwasanaethau Cymraeg o fewn AaGIC ac am weithrediad parhaus ac ymwreiddio ein cynllun iaith Gymraeg.
Gweithio i'n sefydliad
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r corff gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru sydd â swyddogaethau statudol sy'n cynnwys addysg a hyfforddiant, cynllunio'r gweithlu, datblygu a thrawsnewid y gweithlu, arweinyddiaeth a chynllunio olyniaeth, a gyrfaoedd. Ein diben yw datblygu gweithlu sy'n darparu gofal rhagorol i gleifion/defnyddwyr gwasanaethau ac iechyd rhagorol yn y boblogaeth. Rydym yn Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid; Gofal Cymdeithasol Cymru, darparwyr addysg, cyrff proffesiynol a rheoleiddiol a Llywodraeth Cymru.
Mae AaGIC wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant mewnol o ddewis. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu ein meddyliau, ein teimladau a'n credoau o ran sut y byddwn, ac na fyddwn, yn ymddwyn ac yn trin eraill:
- Parch i Bawb ym mhob cyswllt sydd gennym ag eraill,
- Syniadau sy'n Gwella: Harneisio creadigrwydd ac arloesi, gwerthuso a gwella'n barhaus,
- Gyda'n Gilydd fel Tîm
Derbyniodd AaGIC Wobr HPMA ar gyfer Ymgysylltu â Gweithwyr yn 2019.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- cyfnod ymsefydlu corfforaethol ag amserlen Croeso 90 diwrnod,
- arweinyddiaeth dosturiol,
- proses arfarnu perfformiad ystyrlon sy'n seiliedig ar werthoedd,
- y cyfle i effeithio ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a bywydau a lles pobl Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan