Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am bennaeth cyfathrebu newydd i arwain tîm bach ond deinamig o swyddogion cyfathrebu a swyddog ystafell argraffu'r heddlu. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Heddlu Dyfed-Powys
Cyflog: £56,976-£60,678 ynghyd â buddion
Dyddiad Cau: 23/11/2023
Amser Cau: 23:55:00
Enw Cyswllt: Rachel Adams
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Rydym yn chwilio am bennaeth cyfathrebu newydd i arwain tîm bach ond deinamig o swyddogion cyfathrebu a swyddog ystafell argraffu'r heddlu. 

O gefnogi prif swyddogion ac uwch-reolwyr i gyflawni eu hamcanion strategol, i ymdopi â digwyddiadau critigol a darparu arweiniad strategol i ddesg y wasg, bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys ystod eang o faterion plismona a chyfathrebu.

Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni strategaethau cyfathrebu allanol a mewnol yr heddlu, ysgogi cynnydd ar gyfer yr heddlu a'i gymunedau, a sicrhau bod negeseuon yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Prif Gwnstabl. 

Yn arwain y tîm ar faterion critigol ac enw da, bydd y swydd hon hefyd yn gofyn i chi ymdopi â digwyddiadau mawr a pharhaus, gan ddarparu diweddariadau mewn cyfarfodydd grŵp prif swyddogion ac uwch-arweinwyr. 

Byddwch hefyd yn cysylltu â chyfarfodydd sy'n trafod materion plismona cenedlaethol, gan ddod â negeseuon a diweddariadau i'r heddlu, gyda chyfleoedd i gael cefnogaeth gan arweinwyr cyfathrebu ledled y wlad.

Yn ogystal â hyn oll, byddwch yn gyfrifol am lesiant y tîm cyfathrebu ac ystafell argraffu, yn cynorthwyo gyda chefnogaeth yn dilyn digwyddiadau trallodus, ynghyd â chyfleoedd i ddatblygu. 

Os oes gennych brofiad o weithio mewn rôl cyfathrebu uwch, ac yn chwilio am eich swydd nesaf, hoffem glywed gennych.

Rydym yn cynnig y canlynol:

24 diwrnod o wyliau blynyddol ar y dechrau, yn cynyddu i 29 diwrnod ar ôl pum mlynedd a 32 diwrnod ar ôl 10 mlynedd

24 diwrnod hyblyg y flwyddyn

Gwyliau'r banc

Lwfans wrth gefn os oes angen gweithio ar alwad

Ynghyd â’r canlynol:

Mynediad i gampfa ar y safle

Opsiwn i ymuno â chynllun Cerdyn Golau Glas am ostyngiadau mewn siopau a busnesau amrywiol

Cynllun Beicio i'r Gwaith

Cefnogaeth Iechyd Galwedigaethol gan gynnwys llesiant a chwnsela

Cynllun pensiwn hael

Hawliau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu hael

Darpariaethau tâl salwch

Mynediad i rwydweithiau cymorth yr heddlu

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Hanner nos, 23 Tachwedd 2023

Dyddiad y cyfweliad cyntaf: Dydd Gwener, 1 Rhagfyr 2023

Dyddiad yr ail gyfweliad: Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023

Rydym yn awyddus i recriwtio pobl ag ystod eang o sgiliau a phrofiadau a dealltwriaeth o faterion diwylliannol. Rydym yn arbennig yn annog pobl o gymunedau du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymuno â ni.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Gweinyddwr

Swyddog Ardal Cynnal a Chadw (Dros Dro) x 1 / Swyddog Ardal Cynnal a Chadw (Parhaol) x 2

Swyddog Cyllid a Gweinyddol