Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol

Trosolwg:

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol

Mae Adnodd yn un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru. Mae’n gyfrifol am arwain a chydlynu’r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.

Gweledigaeth Adnodd yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fo’u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da a fydd yn tanio’u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Adnodd
Cyflog: £62,725
Dyddiad Cau: 14/05/2025
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Hannah Welfoot
Ffôn: 07458143279
Lleoliad: Gweithio o bell
Disgrifiad:

Y cyfle 

Fel Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, byddwch chi’n arwain y gwaith o ddylunio a rhoi ar waith strategaeth y sefydliad ar gyfer cyfathrebu, marchnata ac ymwneud â rhanddeiliaid.

Byddwch chi’n gwneud cyfraniad o bwys at ddatblygu a gwella enw da brand Adnodd drwy fod yn rhagweithiol ym myd cysylltiadau cyhoeddus a’r wasg, a thrwy gydweithio’n effeithiol â phartneriaid strategol.

Byddwch chi’n defnyddio dadansoddeg, gwybodaeth a data i fireinio a gwella’n barhaus ein strategaethau ymgysylltu, a’r rheini’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Adnodd a’r Cwricwlwm i Gymru.

 

Y cyfrifoldebau

·       Arwain a rhoi ar waith Strategaeth Gyfathrebu Adnodd, gan sicrhau bod ein negeseuon yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn effeithiol, a’u bod yn cryfhau ein brand ac yn adlewyrchu’i werthoedd.

·       Rheoli’r holl waith cyfathrebu allanol, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron, cynnwys ar y we, a chysylltiadau â’r wasg, er mwyn hyrwyddo ac amlygu’r gwaith y mae Adnodd yn ei wneud.

·       Meithrin cyfathrebu mewnol effeithiol, drwy helpu i sicrhau bod y staff yn cefnogi amcanion y sefydliad a thrwy hyrwyddo diwylliant agored a chynhwysol.  

·       Arwain y broses o ymwneud â rhanddeiliaid, gan feithrin partneriaethau cryf gyda’r sector addysg, Llywodraeth Cymru, y cyfryngau a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli er mwyn rhoi sail i waith a dylanwadu ar waith yn y meysydd hyn.

·       Monitro a gwerthuso gwaith cyfathrebu, gan ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth i wella’i gyrhaeddiad a’i effeithiolrwydd a gwerth am arian.

 

Am beth rydyn ni’n chwilio

·       Profiad amlwg o arwain strategaethau cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus neu ymgysylltu—yn ddelfrydol yn y byd addysg, yn y sector cyhoeddus, neu yn y sector nid-er-elw.

·       Y gallu i droi syniadau cymhleth yn gynnwys dwyieithog clir sy’n argyhoeddi.

·       Profiad o ddefnyddio adnoddau digidol, o reoli cysylltiadau â’r cyfryngau, ac o ymwneud â chynulleidfaoedd ar blatfformau niferus.

·       Sgiliau rheoli prosiectau a rheoli cyllidebau rhagorol, gyda phwyslais ar gyflawni ac ar gael effaith.

·       Sgiliau rhyngbersonol cryf a’r gallu i feithrin ymddiriedaeth â rhanddeiliaid ar bob lefel.

·       Rhywun sy’n angerddol dros addysg ac wedi ymrwymo i ddwyieithrwydd.

·       Gradd neu gymhwyster proffesiynol perthnasol (dyma fydd yn cael ei ffafrio).

 

Hyfedredd ieithyddol

·       Mae’n hanfodol eich bod yn hyfedr yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Y buddion          

·       37.5 awr yr wythnos – amgylchedd gweithio hyblyg

·       30 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau Cyhoeddus

·       Gwyliau ychwanegol – Dydd Gŵyl Dewi 

·       Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

·       Amrywiaeth o fanteision eraill

 

I wneud cais

Yolk Recruitment yw partner recriwtio arbennig Adnodd ac felly bydd yr holl geisiadau’n cael eu rheoli gan dîm Yolk, gan ddilyn proses recriwtio deg a thryloyw Adnodd.

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr i gyd-fynd (dim mwy na 500 o eiriau) at Hannah Welfoot yn Yolk Recruitment.

Dyddiad cau:  Mercher, 14 Mai

Dyddiad y cyfweliad a’r asesiad:  Dydd Iau, 22 Mai

Lleoliad y cyfweliad a’r asesiad:  Caerdydd

Ymunwch â ni ar ein taith i greu profiadau dysgu cyfoethog, cynhwysol sy’n cefnogi ac yn ysbrydoli addysgwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu gweithle amrywiol, cynhwysol a grymusol, lle bydd pawb yn perthyn. Rydyn ni’n frwd yn ein hawydd i groesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir, yn enwedig y rheini o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, a phobl anabl. Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r safbwyntiau a’r profiadau unigryw y bydd gan bob unigolyn i’w cynnig, ac rydyn ni wedi ymroi i sicrhau tegwch yn ein prosesau recriwtio a thrwy ein holl sefydliad.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cynorthwy-ydd Llyfrgell Dan Hyfforddiant (x2 swydd)

Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)

Swyddog Ymchwilio Graddedig Dan Hyfforddiant