Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Trosolwg:
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy’n achub byd natur ac yn ysbrydoli pobl yn un o dirweddau harddaf y DU.
Disgrifiad:
Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Cyfeirnod: NOV20225498
LLeoliad: RSPB Cymru - HQ
Cyflog: £42,768.00 - £47,446.00 y Flwyddyn
Buddiannau: Pensiwn, Yswiriant Bywyd, Gweithio hyblyg yng Nghymru a Gwyliau Blynyddol.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm gwych sy’n achub byd natur ac yn ysbrydoli pobl yn un o dirweddau harddaf y DU.
Rydyn ni’n chwilio am arbenigwr Cysylltiadau Cyhoeddus i arwain ein gwaith cyfathrebu lleol yng Nghymru, gan weithio gyda chymheiriaid ledled y DU, i ddatblygu cynlluniau cyfathrebu i ymgysylltu a grymuso, gan addasu dulliau gweithredu sy’n addas i gyd-destun Cymru.
Mae’r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata yn creu strategaethau cyfathrebu i gefnogi ein gweledigaeth bod pobl yn deall, yn cefnogi ac yn ymgysylltu â gwaith RSPB Cymru. Mae’r swydd hon yn arwain y gwaith o ddatblygu a darparu cyfathrebu yng Nghymru, yn unol â strategaeth gyfathrebu’r RSPB.
Mae’r swydd yn rhan o’r tîm Codi Arian a Chyfathrebu, yn arwain tîm o bedwar ac yn adrodd i’r Pennaeth Codi Arian a Chyfathrebu.
Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
1. Gwybodaeth gadarn a phrofiad o gynllunio a strategaeth gyfathrebu, rheoleiddio a chydymffurfiaeth a rheoli risg enw da
2. Dealltwriaeth o strategaeth y brand a sut y dylid gweithredu hyn yng nghyd-destun y wlad
3. Sgiliau arwain a rheoli pobl - profiad o arwain a datblygu timau i ddatblygu aelodau o’r tîm ar gyfer sicrhau perfformiad o safon uchel a meithrin diwylliant cadarnhaol
4. Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac ar bapur i gyflwyno, dylanwadu a chynrychioli’r sefydliad
5. Profiad o ddarparu cyngor ac arbenigedd proffesiynol ynglyn â chyfathrebu
6. Cymhwyster lefel gradd mewn pwnc perthnasol neu’n gallu dangos gallu cyfatebol drwy brofiad gwaith
Mae hon yn swydd Amser Llawn, Parhaol am 37.5 awr yr wythnos.
Mae hon yn swydd hybrid a gallwch fod yn unrhyw le yng Nghymru. Disgwylir i chi deithio. Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59, Dydd Sul 11 Rhagfyr 2022
Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd hon ddydd Gwener 16 Rhagfyr drwy Microsoft Teams.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i chi lenwi ffurflen gais gan gynnwys tystiolaeth ynghylch sut rydych chi’n bodloni’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad a restrir uchod.
Mae’r RSPB yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 yn berthnasol i’r swydd hon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan