Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Pennaeth Codi Arian

Pennaeth Codi Arian

Trosolwg:

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i benodi unigolyn cymwys a brwdfrydig i reoli ac arwain ei ffyniant codi arian a chefnogi ei gwaith o gyflawni ei strategaeth, fel y nodir yn ein Cynllun Strategol 2021-2026: Llyfrgell i Gymru a'r Byd. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflog: £43,445 - £56,869
Dyddiad Cau: 19/08/2022
Amser Cau: 14:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Ffôn: 01970 632530/1
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3BU
Disgrifiad:

Diben cyffredinol y rôl:

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn awyddus i benodi unigolyn cymwys a brwdfrydig i reoli ac arwain ei ffyniant codi arian a chefnogi ei gwaith o gyflawni ei strategaeth, fel y nodir yn ein Cynllun Strategol 2021-2026: Llyfrgell i Gymru a'r Byd. Wrth arwain swyddogaeth codi arian y Llyfrgell, bydd y Pennaeth Codi Arian yn hroi arweiniad a chefnogaeth i'r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, y Tîm Gweithredol, y Grŵp Cyflawni, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a staff trawsadrannol sydd â chyfrifoldebau codi arian i sicrhau newid sylweddol yn incwm codi arian LlGC, a hefyd i weithredu fel eiriolwr i sicrhau bod y gweithlu cyfan yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl am godi arian ac yn gallu cyfrannu at ddigwyddiadau, apeliadau ac ymgyrchoedd.

Byddwch yn creu profiad gwerth chweil i'r rhai sy'n rhoi ac yn gweithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau i ddatblygu a chynnal rhwydwaith partneriaeth o gefnogwyr dylanwadol. Byddwch yn cadw cyfres o opsiynau codi arian, gan gynnwys blaenoriaethau strategol pwysig sydd wedi'u nodi yng Nghynllun Strategol 2021-2026: Llyfrgell i Gymru a'r Byd. Byddwch hefyd yn gyfrifol am oruchwylio gweithgareddau cynhyrchu incwm y Llyfrgell gan roi ystyriaeth briodol i gasgliadau adroddiad Richard Newton; 'Adolygiad allanol o botensial Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynhyrchu incwm masnachol' a grëwyd ym mis Hydref 2021.

PENNAETH CODI ARIAN

Band 6: £43,445 - £56,869

Swydd parhaol 37 awr yr wythnos

Dyddiad cau derbyn ceisiadau: 2.00 o’r gloch  19 Awst 2022

Dyddiad cyfweliadau:  i’w cadarnhau 

Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, oriau gweithio hyblyg a phrisiau gostyngol yn y bwyty.  Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Dylunydd Cynnwys

Ymghynghorydd Annibynnol Trais yn y Cartref (IDVA) - GWRYW

Gweithiwr Cefnogi Pobl Hŷn