Pennaeth Casgliadau Unigryw

Pennaeth Casgliadau Unigryw

Trosolwg:

Ydych chi’n chwilio am rôl ysbrydoledig lle gallwch gyfrannu at ddatblygu, gwarchod a rhannu treftadaeth unigryw Cymru? Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am arweinydd profiadol ac egnïol i ymuno â’r Tîm Arwain fel Pennaeth Casgliadau Unigryw.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *

Enw'r Cyflogwr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflog: £56,515 - £65,206
Dyddiad Cau: 28/04/2025 (0 diwrnod)
Amser Cau: 11:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3BU
Disgrifiad:

Pennaeth Casgliadau Pennaeth Casgliadau Unigryw
Cyflog: £56,515 – £65,206
Math o Gontract: Parhaol (yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus)
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Dyddiad Cau: 11.00am, 28 Ebrill 2025
Dyddiad Cyfweliadau: Yr wythnos yn dechrau 12 Mai 2025

Ydych chi’n chwilio am rôl ysbrydoledig lle gallwch gyfrannu at ddatblygu, gwarchod a rhannu treftadaeth unigryw Cymru? Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am arweinydd profiadol ac egnïol i ymuno â’r Tîm Arwain fel Pennaeth Casgliadau Unigryw. Yn y rôl allweddol hon, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod casgliadau unigryw’r Llyfrgell yn amrywiol, cynhwysfawr, a hygyrch i bobl Cymru a’r byd.

Byddwch yn arwain prosiectau strategol, datblygu partneriaethau allanol, a chynrychioli’r Llyfrgell mewn trafodaethau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys arwain ac ysbrydoli timoedd arbenigol ac ymroddedig yn Adran newydd Casgliadau Unigryw.

Rydym yn chwilio am unigolyn gyda sgiliau rhagorol yn y Gymraeg a’r Saesneg, a phrofiad cadarn mewn curadu a rheoli casgliadau treftadaeth. Gweler y disgrifiad swydd llawn am fwy o wybodaeth.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r rôl, cysylltwch ag: owain.roberts@llyfrgell.cymru

Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau teuluol cefnogol, a gostyngiadau yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.

I ofyn am becyn gwybodaeth a chael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol y Llyfrgell ar 01970 632530/1 neu e-bostiwch swyddi@llgc.org.uk.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

We are re-directing you

* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position.

Mwy

GWELD POPETH

Cynorthwy-ydd Cefnogi Gwirfoddolwyr

Uwch Swyddog Cyfathrebu (Dwyieithog)

Swyddog Ti a Fi Teithiol Rhyl, Rhuddlan a Dyserth