Partner Busnes Pobl a Diwylliant
Partner Busnes Pobl a Diwylliant
Trosolwg:
Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy'n rhoi pobl wrth galon y sefydliad. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn dynamig, empathetig ac egnïol sy'n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â'n tîm Pobl a Diwylliant fel Partner Busnes.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Byddwch yn rhan allweddol o dîm sy'n gweithredu'n strategol ac yn ymarferol, gan ddarparu cefnogaeth Adnoddau Dynol ar draws y sefydliad yn unol â model partneru busnes: o hyfforddiant a datblygu, i absenoldeb a chyflogres, i recriwtio a pholisïau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant i greu dulliau sy'n cefnogi ein strategaeth, gan ddefnyddio data ac adborth i wella'n barhaus.
Mae hon yn rôl sy'n hynod bwysig ac yn weladwy iawn ar bob lefel. Bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y sefydliad trwy gwreiddio'n Cod Diwylliant ymhob rhan o'r gwaith ac ymddygiad gan hyrwyddo tegwch a chynhwysiant yn y gweithle.
Byddwch hefyd yn arwain ar rai meysydd penodol, gall gynnwys:
Llesiant, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Tâl a Gwobrwyo, Iechyd a Diogelwch, Systemau a Phrosesau – ymhlith eraill! Mae'r rôl hefyd yn cynnwys gweithio ar brosiectau penodol fydd yn herio ac yn datblygu'ch sgiliau ymhellach.
Manylion Eraill:
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa.
Cyflog: £35,000-£40,000 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 28 Ebrill 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: Dydd Mercher 7 Mai 2025
Ail gyfweliad (i'w gadarnhau): Dydd Mawrth 13 Mai 2025
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Partner Busnes Pobl a Diwylliant
Cysylltiad Partner Busnes Pobl a Diwylliant