Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg) x2
Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg) x2
Trosolwg:
Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg.
Disgrifiad:
Newyddiadurwr Digidol dan hyfforddiant
(Rhaglenni Cymraeg)
ITV Cymru Wales
2 x cytundeb 12 mis
Lleoliad : Caerdydd
Cyflog : £24,898 - £29,034
Y rôl
Ydych chi’n caru’r cyfryngau cymdeithasol?
Mwynhau siarad gyda phobl newydd a chlywed eu straeon?
Hoffi’r syniad o weithio rhywle lle mae bob diwrnod yn wahanol?
Os mai ‘ydw’ yw’r ateb i un o’r uchod - dyma’r swydd i chi.
Mae ITV Cymru, mewn partneriaeth gydag S4C, yn chwilio am bobl sydd eisiau datblygu gyrfa ym myd newyddiaduraeth, ac i greu cynnwys cyffrous yn y Gymraeg.
Dim Sbin‘Hansh Dim Sbin’Newyddion digidol S4C.
Byddwch yn ymateb i straeon y dydd gan greu cynnwys i blatfformau cyfryngau cymdeithasol gyda ffocws ar gyflwyno’r cynnwys i gynulleidfaoedd ifanc. Yn ogystal byddwch yn ysgrifennu erthyglau yn Gymraeg a cynhyrchu eitemau fideo i wasanaeth Newyddion S4C. Bydd cyfle i chi hefyd ymchwilio a datblygu syniadau gwreiddiol eich hunain ar bynciau gwahanol, o fyd y selebs i straeon am gyfiawnder cymdeithasol.
Bydd gennych ddiddordeb mewn newyddion a materion cyfoes ac â dealltwriaeth wych o blatfformau digidol a sut i’w defnyddio i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwch yn angerddol dros chwilio am amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd weithiau yn cael eu tangynrychioli, ac yn frwd am adrodd straeon yn greadigol.
I ymgeisio, anfonwch CV a fideo 2 funud i ni yn ateb yr isod.
Youtube
Hoffwn i chi ateb y ddau gwestiwn penodol yma -
1. Rhowch eich enw llawn, rhagenwau ac o ble ydych chi’n dod.
2. Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd……
3. Pa bynciau yr ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw a sut y byddent yn gweithio ar gyfer cynulleidfaoedd digidol?
Hoffwn i chi anfon eich atebion fel un fideo ac ni ddylai fod yn fwy na 2 funud o hyd.
Sgiliau allweddol
- Yn rhugl yn Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Greddf Newyddiadurol
- Meddyliwr Creadigol
- Dealltwriaeth wych o blatfformau a strategaethau digidol
- Angerddol dros gynyddu cynrychiolaeth a mynediad i gynnwys newyddion i gynulleidfaoedd ifanc.
Gofynion eraill y rôl
Diddordeb brwd mewn newyddion a materion cyfoes.
Sgiliau cyfathrebu a ieithyddol cryf.
Profiad o waith tîm.
Mae Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant yn graidd i bopeth yr ydym yn ei wneud yn ITV Cymru ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd ar sgrin ac ar draws y tîm. Mae ITV i bawb ac rydym yn annog pobol sy’n fyddar, ag anableddau, yn niwrowahanol neu yn bobol o liw i ymgeisio am y rôl hon.
Mae ein ystafelloedd newyddion yn brysur ac yn amgylchedd lle byddwch yn gweithio o dan bwysau, gan gynnwys cynhyrchu newyddion byw, lle mae’n aml yn angenrheidiol i wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Rydym hefyd angen pobol sy’n gallu gweithio ar ei liwt ei hun.
Mi fyddwn ni angen profi’r gallu hyn yn ystod y cyfweliad i ddeall sut y bydd ymgeiswyr yn ymateb wrth weithio o dan bwysau. Mae’n hanfodol i’r rôl. Byddwn yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld, er enghraifft rhannu themâu bras os yw’r cais yn gysylltiedig â chyflwr niwrowahaniaeth, wrth sicrhau ein bod dal yn medru profi gallu ymgeisydd i weithredu mewn amgylchedd ystafell newyddion.
Yn ITV rydym yn gwerthfawrogi'r defnydd o dechnoleg wrth ymchwilio ar gyfer eich cais. Ry’n ni’n deall bod AI, gan gynnwys ChatGPT, yn gallu bod yn ddefnyddiol. Serch hyn, ry’n ni’n gwerthfawrogi gwreiddioldeb ac yn disgwyl i ymgeiswyr arddangos eu syniadau a’u profiadau eu hunain. Bydd ceisiadau sy’n ymddangos fel petaent wedi cael eu copïo yn uniongyrchol o gynnwys wedi ei greu gan AI, yn gallu cael eu gwrthod. Ry’n ni’n credu mewn proses teg a thryloyw wrth asesu ac mae cael blas o’ch gwir gymeriad chi yn hanfodol i lwyddo.
Dyddiad Cau: 27/07/25
Nodwch bod y cyfnod rhybudd i’r rôl yn 2 fis.
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *