Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Eiriolydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Eiriolydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Trosolwg:
Mae'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn llinell gymorth 24 awr sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, a phob math arall o drais yn erbyn menywod yng Nghymru. Rydym ni’n darparu gwasanaeth gwrando a chyfeirio i oroeswyr, teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Yn ogystal â'n gwasanaeth ffôn, rydym hefyd yn darparu cymorth a chefnogaeth drwy e-bost, neges destun a gwe-sgwrs.
Disgrifiad:
Mae Cymorth i Ferched Cymru yn sefydliad cenedlaethol yng Nghymru sy'n cefnogi gwasanaethau arbenigol y trydydd sector sy'n gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig, trais rhywiol, a mathau eraill o drais yn erbyn menywod.
Eiriolydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
£27,852.00 - £29,439.00 pro rata y flwyddyn
Oriau ac patrymau weithio amrywiol (gwaith nos a penwythnos disgwyliedig)
Contract parhaol
Yn y swyddfa (ger ein swyddfa yng Nghaernarfon). Rhaid bod yn barod ac yn gallu cymudo.
Dyddiad cau: 10fed o Mawrth
Cyfweliadau: Dyddiadau i'w gael ei gadarnhau
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn bersonol yn ein swyddfa ym Mhenygroes, ger Caernarfon.
Swydd ddisgrifiad cryno:
-Mae'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn llinell gymorth 24 awr sydd wedi ennill gwobrau ar gyfer goroeswyr cam-drin domestig, trais rhywiol, a phob math arall o drais yn erbyn menywod yng Nghymru. Rydym ni’n darparu gwasanaeth gwrando a chyfeirio i oroeswyr, teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Yn ogystal â'n gwasanaeth ffôn, rydym hefyd yn darparu cymorth a chefnogaeth drwy e-bost, neges destun a gwe-sgwrs.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod o dîm y Llinell Gymorth, gan adrodd i'n Arweinydd Tîm Llinell Gymorth Fel rhan o'r swydd, byddwch yn:
Ymateb i ymholiadau i'r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn a dderbyniwyd dros y ffôn, e-bost, gwe-sgwrs neu neges destun i’r canlynol:
- Darparu gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio cyfrinachol i unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol a/neu unrhyw fath arall o drais yn erbyn menywod, ac i'r rhai sy'n cysylltu â'r gwasanaeth ar eu rhan.
- Gwerthuso ac ymateb i angen, a lleihau'r risg i'r rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, trais rhywiol, neu fathau eraill o drais yn erbyn menywod.
- Cyfeirio defnyddwyr gwasanaeth at wasanaethau cymorth priodol gan ddefnyddio'r llwybrau atgyfeirio sefydledig.
Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
Fel rhan o'r rôl hon, bydd disgwyl i chi weithio shifftiau ar rota 24 awr. Mae sifftiau penwythnos a nos yn rhan angenrheidiol o'r rôl.
Manyleb y Person
Mae'r swydd hon yn agored i ferched yn unig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn unol ag Atodlen 9, Rhan 1, sy'n cynnwys unrhyw ymgeiswyr sydd â phrofiad byw o fod yn ferch. Rydym ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein sefydliad yn lle cynhwysol i weithio.
Oes gennych chi brofiad o’r canlynol:
- Gweithio o fewn gwasanaeth cam-drin domestig, trais rhywiol, neu drais yn erbyn menywod neu debyg.
- Darparu gwasanaethau cymorth Llinell Gymorth uniongyrchol.
- Gwaith shifft, yn enwedig gwaith shifft nos.
- Diogelu oedolion a phlant.
Oes gennych chi wybodaeth am y canlynol:
- Dealltwriaeth o gam-drin domestig/trais rhywiol a'r effeithiau.
- Dealltwriaeth dda o'r gwasanaethau sydd ar gael ar draws y sectorau statudol a gwirfoddol a allai gefnogi goroeswyr.
- Gwybodaeth berthnasol am unrhyw un neu bob un o'r meysydd canlynol: Budd-daliadau, Materion cyfreithiol, Tai, Diogelu plant ac oedolion ag anghenion cymorth ychwanegol, Mewnfudo
Ydych chi:
- Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig gydag unigolion a sefydliadau gwahanol.
- Yn wrandäwr ardderchog – gyda phwyslais ar dact, empathi, amynedd a charedigrwydd.
- Yn wydn yn emosiynol gyda'r gallu i ddelio â galwadau a chysylltiadau emosiynol.
- Yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a chyflawni nifer o dasgau ar yr un pryd mewn amgylchedd gwaith prysur.
- Yn drefnus, gyda'r gallu i gofnodi, adrodd ac ymateb i broblemau sy'n effeithio ar y gwasanaeth Llinell Gymorth.
- Yn gallu meithrin perthynas waith gadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad.
- Yn gallu cyflawni eich gwaith gweinyddol eich hun, dangos sgiliau TG da a'r gallu i ddysgu meddalwedd newydd.
- Wedi ymrwymo i'ch dysgu a'ch datblygiad eich hun, ac yn gallu ymgymryd â thasgau newydd gyda brwdfrydedd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
WWA Recruitment Pack HA - English
CiFC - Pecyn Recriwtio ELl - Cymraeg
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Eiriolydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Cysylltiad Eiriolydd Llinell Gymorth Byw Heb Ofn