Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cynghorydd Cyfreithiol (Trosedd) - De-ddwyrain Cymru
Cynghorydd Cyfreithiol (Trosedd) - De-ddwyrain Cymru
Trosolwg:
Pan fyddwch yn ymuno â ni fel cynghorydd cyfreithiol, byddwch yn darganfod yn gyflym nad yw hon yn rôl 9 i 5 arferol, gan nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn gweithio ar gyflymder mewn amgylchedd amrywiol sy'n symud yn gyflym, ac yn helpu i gadw'r llysoedd i fynd rhagddynt yn llyfn ac yn effeithlon. Byddwch yn gweithio ar bopeth o fân droseddau moduro i droseddau difrifol, neu mewn anghydfodau teulu ac anghydfodau rhwng rhieni am eu plant neu a ddylai plentyn gael ei dynnu o'i deulu gan y wladwriaeth.
Disgrifiad:
Mae rôl cynghorydd cyfreithiol yn hanfodol o ran cynnal rhediad llyfn Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) ac mae'n swydd hynod werth chweil yn ein sefydliad. Os ydych yn angerddol am y gyfraith, bod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon ac eisiau mynd â'ch gyrfa i gyfeiriad newydd, gallai fod y rôl iawn i chi.
Dylech chi fod yn gyfathrebwr ardderchog gyda'r gallu i ennyn hyder ym mhawb rydych chi'n gweithio gyda nhw a'r hunanhyder i siarad yn y llys. Bydd angen i chi fod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr cymwys neu'n gymrawd CILEX, sy'n frwd dros y cyfrifoldeb sy'n dod o fod ar reng flaen y system gyfiawnder ac rydych chi nawr yn barod i ddatblygu eich gyrfa ymhellach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas a'r cymunedau rydym yn byw ynddynt.
Mae ein gwaith yn GLlTEF yn hanfodol bwysig er mwyn cynnal system gyfiawnder deg, hygyrch ac effeithlon yn ddidrafferth, gan ein bod yn gyfrifol am weinyddiaeth y llysoedd a’r tribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn chwilio am gynghorwyr cyfreithiol i ymuno â'n tîm cyfreithiol arbennig yng Nghymru i roi cyngor i ynadon ar bwyntiau cyfreithiol, ymarfer a gweithdrefn, a chynorthwyo i lunio a drafftio'r rhesymau y tu ôl i'w dyfarniadau. Bydd gofyn i chi hefyd arfer amrywiaeth o swyddogaethau barnwrol awdurdodedig. Nid yn unig y bydd hyn yn defnyddio eich sgiliau cyfreithiol cadarn, ond bydd angen i chi ddangos annibyniaeth farnwrol, uniondeb a didueddrwydd bob amser.
Eich rôl
Pan fyddwch yn ymuno â ni fel cynghorydd cyfreithiol, byddwch yn darganfod yn gyflym nad yw hon yn rôl 9 i 5 arferol, gan nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn gweithio ar gyflymder mewn amgylchedd amrywiol sy'n symud yn gyflym, ac yn helpu i gadw'r llysoedd i fynd rhagddynt yn llyfn ac yn effeithlon. Byddwch yn gweithio ar bopeth o fân droseddau moduro i droseddau difrifol, neu mewn anghydfodau teulu ac anghydfodau rhwng rhieni am eu plant neu a ddylai plentyn gael ei dynnu o'i deulu gan y wladwriaeth.
Bydd eich hyfforddiant yn cynnwys cofrestru ar raglen gynefino genedlaethol 12 i 18 mis lle byddwch yn caffael gwybodaeth am y gyfraith, ymarfer a gweithdrefn a'r sgiliau llys sy'n ofynnol i fod yn gynghorydd cyfreithiol. Cewch eich cefnogi gan fentor, rheolwr a'ch cydweithwyr. Byddwch yn casglu tystiolaeth drwy gydol eich hyfforddiant i gefnogi eich dyrchafiad i Gynghorydd Cyfreithiol cymwysedig. Ar ôl i chi gwblhau eich hyfforddiant, mae ystod eang o gyfleoedd gyrfa naill ai o fewn GLlTEF, neu bydd eich hyfforddiant yn rhoi'r wybodaeth a'r profiad i chi sy'n berthnasol i chi wneud cais am rolau barnwrol.
Gweithio fel wyneb cymwys, proffesiynol y llysoedd
Yn hytrach na gweithredu ar ran cleient, byddwch yn darparu cyngor cyfreithiol i ynadon ac yn symud achosion yn eu blaenau i sicrhau yr ymdrinnir â hwy yn gyfiawn, yn deg ac yn gyflym.
Os ydych chi'n gweithio yn yr awdurdodaeth teulu, eich rôl chi fydd cynghori ynadon ar y gyfraith, gweithdrefnau ac, mewn ymgynghoriad â'r ynadon, rhoi rhesymau dros eu penderfyniadau. Gyda phrofiad, byddwch hefyd yn cael awdurdod i reoli achosion yn y llys a'r tu allan i’r llys ac mewn rhai achosion nad ydynt yn cael eu gwrthwynebu, gallu gwneud gorchmynion terfynol i blant. Byddwch yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i deuluoedd yng Nghymru.
Byddwch yn gweithredu fel wyneb proffesiynol y llys, felly byddwn yn disgwyl i chi weithio gydag uniondeb, empathi a dealltwriaeth, a sicrhau bod pawb sy'n mynychu’r llys yn cael eu trin â dynoliaeth a pharch.
Rhoi eich holl sgiliau ar waith wrth i chi gynyddu eich gwybodaeth o'r gyfraith
Yn ogystal â bod wedi cymhwyso yn y gyfraith a bod â sgiliau cyfathrebu rhagorol, byddwch yn ymrwymedig i ddatblygu ac ymarfer eich gwybodaeth a'ch sgiliau yn yr awdurdodaeth y cawsoch eich penodi iddi. Bod yn agored, yn hawdd mynd ato/ati, bod yn broffesiynol ac yn gefnogol, byddwn yn disgwyl i chi feddu ar sgiliau datrys problemau rhagorol a'r gallu i feddwl ar eich traed mewn llys prysur. Gwneir penderfyniadau pwysig, gall y rhain gael effaith sylweddol ar y bobl sy'n dod i'r llys, felly bydd disgwyl ichi fod yn hyderus, yn ddiduedd ac yn gallu ystyried ystod eang o risgiau a goblygiadau. Dylech fod yn hyblyg ac yn addasadwy a chyda lefel uchel o gyfrifoldeb personol, mae yna adegau pan fyddwch yn wynebu sefyllfaoedd heriol. Dylech fod yn unigolyn gwydn ac yn gallu aros yn ddigynnwrf dan bwysau a bydd gennych ddull diplomyddol a thactegol tuag at bawb rydych chi'n gweithio gyda nhw.
Mae hon yn rôl rheng flaen yn y swyddfa/yn y llys. Byddwch yn cael eich dyrannu i'ch lleoliad sylfaen gwaith y cytunwyd arno rhyngoch chi a rheolwr llinell fel rhan o'r broses recriwtio.
Mae'n rhaid i’n holl weithwyr gwblhau cliriad diogelwch cyn cael eich penodi, felly bydd rhaid ichi ymgymryd â phroses fetio os bydd eich cais yn llwyddiannus.
Mwynhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith â'n hamrywiaeth o fuddion
Pan fyddwch yn ymuno â ni, byddwch yn gwneud cyfraniad pwysig i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF – ond sut y byddwn ni yn eich helpu chi?
Yn ogystal â chyflog cystadleuol, hawl i wyliau hael a phensiwn y Gwasanaeth Sifil, byddwn yn cefnogi eich datblygiad gyda chyfleoedd hyfforddi i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa gyda ni. Rydym hefyd yn deall pwysigrwydd cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, a chyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig cynlluniau gweithio hyblyg, absenoldeb mamolaeth a thadolaeth â thâl a buddion gofal plant rhagorol.
Mae'r gwaith hanfodol a wnawn yn cymryd cymuned anhygoel o gydweithwyr sydd â gwahanol sgiliau, cefndiroedd, diwylliannau a hunaniaethau. Rydym yn cefnogi pob unigolyn, felly byddwch bob amser yn gwybod eich bod yn cael eich croesawu a'ch gwerthfawrogi. Mae gennym rwydweithiau staff cryf a rhagweithiol a gallwn wneud addasiadau rhesymol i'r rhai sydd eu hangen.
Os yw hyn yn swnio fel chi, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein i wneud cais am rôl cynghorydd cyfreithiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: HQlegal@justice.gov.uk
Ar hyn o bryd mae gennym dair ymgyrch Cynghorydd Cyfreithiol yn mynd rhagddynt yng Nghymru sy'n cwmpasu gwaith Troseddol yn Ne Ddwyrain Cymru, gwaith Troseddol yn Nyfed Powys a Gogledd Cymru; a gwaith Teulu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Disgrifiad swydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cynghorydd Cyfreithiol (Trosedd) - De-ddwyrain Cymru
Cysylltiad Cynghorydd Cyfreithiol (Trosedd) - De-ddwyrain Cymru