Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant

Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant

Trosolwg:

Cyfatebol sy'n gyfrifol am isdeitlo'r rhan helaeth o raglenni S4C. Rydym yn chwilio am isdeitlydd (neu dan hyfforddiant) i ymuno â'r tïm i baratoi isdeitlau Cymraeg a Saesneg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Cyfatebol
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 29/02/2024
Amser Cau: 21:00:00
Enw Cyswllt: Owain Saunders-Jones
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Fel rhan o’r swydd byddwch yn paratoi isdeitlau ar gyfer amrywiaeth eang o raglenni S4C fel Cefn Gwlad, Sgorio a Pobol y Cwm. Byddwch yn gweithio ar raglenni sy'n cyrraedd ymhell o flaen y dyddiad darlledu, rhaglenni sy'n cyrraedd yn agos at y dyddiad darlledu a rhaglenni byw. Mae hyblygrwydd a'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol.

Byddai profiad o isdeitlo yn ddelfrydol, ond darperir hyfforddiant llawn ar bob agwedd o’r swydd (felly ddim yn anghenraid, felly ni ddylid oedi cyn cysylltu!).

Yn amlwg mae llygad am fanylder a sgiliau ieithyddol Cymraeg a Saesneg o safon uchel yn bwysig iawn i’r swydd. Yn ogystal, mae angen gallu gweithio yn gywir o dan bwysau amserlen dynn ar adegau. Ydych chi'n frwdfrydig?
Rydym yn barod i ystyried hyblygrwydd o ran y math o gytundeb a pherthynas.

Cysylltwch os am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth.

owain@cyfatebol.com

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Ymgysylltu (Gogledd)

Rheolwr Gweithrediadau a Chymorth Arloesi i Fusnesau

Swyddog Ti a Fi Teithiol Rhyl, Rhuddlan a Dyserth