Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Hyfforddai Graddedig
Hyfforddai Graddedig
Trosolwg:
Ydych chi'n gweld eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Ydych chi'n chwilio am gyfle graddedig o'r radd flaenaf wedi'i ariannu'n llawn i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig?
Disgrifiad:
Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n gweld eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Ydych chi'n chwilio am gyfle graddedig o'r radd flaenaf wedi'i ariannu'n llawn i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig?
Yna efallai mai ein rhaglen Hyfforddai Graddedig yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano!
Oes gennych chi ddiddordeb mewn lle mae'ch arian treth yn mynd ac ar beth mae'n cael ei wario? Ydych chi'n angerddol am wella gwasanaethau cyhoeddus? Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifyddu wrth ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.
Byddwch yn chwarae rhan yn y gwaith o archwilio dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan sicrhau bod y gwaith a wnewch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Mae ein cleientiaid yn cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol a llawer mwy!
Pwy yw Archwilio Cymru?
Ni yw'r corff archwilio annibynnol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; ein rôl unigryw yw rhoi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Mae ein gwaith yn cael effaith wirioneddol ar gymunedau lleol; mae peth o'n gwaith cenedlaethol diweddar wedi edrych ar ddiogelwch adeiladau, cynhwysiant digidol, COVID-19, digartrefedd a newid hinsawdd.
Pam Archwilio Cymru?
Rydym yn gofalu am ddysgu a datblygu ein hyfforddeion, a byddwch yn cael eich cefnogi'n llawn wrth i chi gydbwyso eich astudio â'ch rôl ymarferol fel hyfforddai.
Mae gennym hefyd restr anhygoel o fuddion:
· 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gyfrif Gwyliau Banc )
· Pecyn cyflog hael
· Cynllun beicio i'r gwaith
· Gostyngiadau siopa
· Tanysgrifiadau proffesiynol
Cyfleoedd dysgu a datblygu helaeth, gan gynnwys trwyddedau LinkedIn
Rydym hefyd yn falch o fod wedi ein hachredu gan Working Families a'r Living Wage Foundation ac rydym yn parhau i dyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y bydd pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn mynd ymlaen i’r cam cyntaf yn y broses o recriwtio ar gyfer y rôl.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod fod gan ein rhaglen ddau bwynt mynediad, Ebrill 2024 ar gyfer ein hymgeiswyr sydd eisoes wedi graddio a Gorffennaf 2024 ar gyfer y rhai sydd i fod i raddio.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, gweler y disgrifiad swydd a cysylltwch â Sian Grainger ar 02920 320547 neu edrychwch ar ein gwefan i wneud cais.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Fideo:
Hyfforddai Graddedig
Cysylltiad Hyfforddai Graddedig