Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol - Plant, Teuluoedd a Diogelu
Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol - Plant, Teuluoedd a Diogelu
Trosolwg:
Mae gwaith cymdeithasol yn newid bywydau ac mae gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol yn amrywiol ac yn werth chweil. Gwyddom fod Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r profiadau bywyd, y sgiliau a'r cymhelliant i feithrin perthnasoedd â phlant, a phobl ifanc, gan weithio ochr yn ochr â nhw a’u helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnynt.
Disgrifiad:
Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol - Plant, Teuluoedd a Diogelu
Lleoliad: Bae Colwyn
Coed Pella
Dyddiad Cau: 18/06/2025
Cyflog: £31,586 - £35,235 y flwyddyn (G06)
Rhanbarth: Llawn Amser Cyfnod Penodol
37 awr yr wythnos
Cytundeb cyfnod penodol o 2 flynedd, yna swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol ar ôl cwblhau’r cymhwyster
Categori/Math o Swydd: Gofal Cymdeithasol
Cyfeirnod y Swydd: REQ006600
Sesiwn Gwybodaeth:
Sesiwn gwybodaeth ar-lein i ddarganfod mwy am y rôl:
Mehefin 4ydd
3:30pm – 4:30pm
Dyddiadau Cyfweld: 3ydd a 4ydd o Orffennaf
Disgrifiad Swydd
Mae gwaith cymdeithasol yn newid bywydau ac mae gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol yn amrywiol ac yn werth chweil. Gwyddom fod Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Rydym yn chwilio am bobl sydd â'r profiadau bywyd, y sgiliau a'r cymhelliant i feithrin perthnasoedd â phlant, a phobl ifanc, gan weithio ochr yn ochr â nhw a’u helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnynt.
Dros y ddwy flynedd fel Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol yng Nghonwy, byddwch yn gweithio o fewn timau gwaith cymdeithasol ac yn astudio am radd meistr ym Mhrifysgol Bangor.
Fel Hyfforddai Graddedig Gwaith Cymdeithasol yng Nghonwy, byddwch yn:
- Derbyn cyflog llawn amser, a chael eich cefnogi i ymgymryd â’r Radd Meistr mewn Gwaith Cymdeithasol
- Gweithio gyda thimau gwaith cymdeithasol profiadol a chael cyfleoedd i weithio mewn gwasanaethau gwaith cymdeithasol gwahanol
- Cael eich cefnogi a’ch rheoli gan Reolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol a Chydlynydd Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol
- Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn swydd barhaol fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig yng Nghonwy
Gofynion Mynediad - Gwaith Cymdeithasol | Prifysgol Bangor:
- Dosbarthiad gradd 2:2 neu uwch [neu debygol o gyflawni yn 2025]
- O leiaf 3 mis* (cyfwerth ag amser llawn) o brofiad perthnasol ym maes gofal cymdeithasol neu brofiad cyfwerth
- Caiff lleoedd ar y cwrs eu cynnig yn seiliedig ar gyfweliad boddhaol gan ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf derbyn
- Bydd angen sgiliau Cymraeg o ran siarad a gwrando
Mae'n ofynnol i bob myfyriwr a dderbynnir ar y cwrs i ymgymryd â gwiriad manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a’u bod yn gallu cofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru a chynnal eu cofrestriad drwy gydol eu hastudiaethau
Cysylltu am Sgwrs Anffurfiol
Mared Pari
01492 577669
mared.pari1@conwy.gov.uk
Mark Rowley
01492 577764
mark.rowley@conwy.gov.uk
Manylion Ychwanegol
Eleni, un cyfle yn unig sydd ar gael. Oherwydd inni gael gymaint o ddiddordeb yn y swydd yma’n flaenorol, ac oherwydd ein perthynas weithiol dda gyda Prifysgol Bangor, gallem drafod ffyrdd eraill o fynychu’r cwrs yma gyda chi. Mi fyddem felly’n rhannu eich manylion gyda Rhaglen Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor. Os nad ydych eisiau i hyn ddigwydd, gadewch inni wybod ogydd. Mi fydd yn ein galluogi i’ch cynorthwyo i gysidro ffyrdd gwahanol o gael mynediad i’r Cwrs MA Gwaith Cymdeithasol os nad ydych yn llwyddiannus yn y swydd yma.
I wneud cais am yr MA Gwaith Cymdeithasol yn annibynnol, dilynwch y linc isod ogydd ar gyfer yr MA Gwaith Cymdeithasol, neu am fwy o wybodaeth am y Rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol drwy Brifysgol Bangor, dilynwch y linc, neu cysylltwch â Gwenan ar g.prysor@bangor.ac.uk.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *