Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer

Hwylusydd y Gymraeg (x 2 swydd) - Campws Pont-y-cymer

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Coleg Gwent
Cyflog: £23,337 - £25,311
Dyddiad Cau: 14/12/2022
Amser Cau: 23:59:00
Lleoliad: Coleg Gwent, Campws Pont-y-cymer, Heol Risca, Crosskeys, Caerffili, Cymru, NP11 7ZA
Disgrifiad:

37 oriau'r wythnos

Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â'r tîm Dwyieithrwydd sy'n teimlo’n angerddol dros yr iaith Gymraeg.

Byddwch yn darparu cefnogaeth unigol a grŵp bach i ddysgwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn eu galluogi i gwblhau rhai o'u hastudiaethau yn Gymraeg, ar gyrsiau, chwaraeon a gofal anifeliaid.

Bydd disgwyl i chi fynychu diwrnodau agored y Coleg, cyfarfodydd allanol a chynadleddau.

Byddwch hefyd yn datblygu adnoddau dwyieithog; gan gynnwys termau technegol dwyieithog ar gyfer ein dysgwyr astudiaethau galwedigaethol.

Gwahoddir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg rhugl,.

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni fyddant yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).

Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Cyffredinol

Swyddog Ardal Cynnal a Chadw (Dros Dro) x 1 / Swyddog Ardal Cynnal a Chadw (Parhaol) x 2

Hyrwyddwr Digwyddiadau Cymraeg