Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Gweithredwr Trawsgrifio (Gweithio gartref)

Gweithredwr Trawsgrifio (Gweithio gartref)

Trosolwg:

Rydym yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno â’n tîm cyfeillgar o staff a gwirfoddolwyr yng Ngwasanaeth Trawsgrifio RNIB yng Nghymru.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: RNIB
Cyflog: £20,565
Dyddiad Cau: 02/10/2022
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Gweithio gartref
Disgrifiad:

Gweithredwr Trawsgrifio Dwyieithog (Gweithio gartref)

Rydym yn edrych am berson brwdfrydig i ymuno â’n tîm cyfeillgar o staff a gwirfoddolwyr yng Ngwasanaeth Trawsgrifio RNIB yng Nghymru.

Mae ein tîm prysur yn troi pob math o ddeunydd gwreiddiol i sain, braille, print bras a fformatiau hygyrch eraill yn Saesneg a Chymraeg. Ceir digon o amrywiaeth yn y rôl – gallwch chi fod yn gweithio gydag adroddwr ar Lyfr Llafar, yn cefnogi gwirfoddolwyr, yn gwneud fersiwn hygyrch o gylchgrawn neu lyfr prif ffrwd neu yn cynhyrchu deunydd cwricwlwm. Bydd angen i chi fod yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n medru ysgrifennu Cymraeg yn gywir.

Yn ddelfrydol, rydym angen rhywun â gwybodaeth am, a phrofiad o, gynhyrchu fformatau hygyrch, ac o ddewis, rhywun â pheth gallu mewn sain, braille neu brint bras. Mae hyblygrwydd, profiad o weithio fel rhan o dîm bach a chefnogi gwirfoddolwyr yn rhannau pwysig o’r rôl. Darperir hyfforddiant llawn, fel sydd angen, ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n cynnig cyflog cystadleuol a phecyn buddion sy’n cynnwys:

- 26 diwrnod o wyliau’r flwyddyn pro rata (a gwyliau banc), sy’n cynyddu gyda’ch gwasanaeth
- Cynlluniau pensiwn rhagorol 

Os hoffech wneud cais am y cyfle gwych hwn, gwnewch gais ar-lein, uwchlwytho eich CV a llythyr clawr, gan ddweud wrthym sut rydych chi'n cwrdd â'r sgiliau, y wybodaeth, a'r profiad ar gyfer y rôl a pham eich bod yn credu y byddech yn addas iawn i RNIB.

Ni yw’r Royal National Institute of Blind People (RNIB) ac rydym yma er mwyn pawb a effeithir gan golled golwg. Mae gweithio i ni yn golygu gweithio i un o elusennau mwyaf y DU, sydd yn cefnogi bron i ddwy filiwn o bobl yn y DU sy’n byw gyda cholled golwg.

Mae RNIB wedi ymrwymo i gael ein harwain gan ein cwsmeriaid (pobl ddall ac â golwg rhannol), ac un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw trwy ymwneud ac ymrwymiad gweithredol yn llawer o’n gweithgarwch, gan gynnwys penodi aelodau newydd o staff.

Byddwch yn ymwybodol y gall gwirfoddolwyr dall ac â golwg rhannol fod ynghlwm â’r broses o recriwtio a dewis ar gyfer y swydd hon; gan gynwys adolygu ceisiadau am swyddi a CVs, paratoi rhestr fer a chyfweliadau a phrofion dewis.

Mae RNIB yn ymrwymedig i fod yn sefydliad Cyfle Cyfartal.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Ti a Fi Wrecsam

Cynghorydd Hawliau Lles

Cyfieithydd