Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref
Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref
Trosolwg:
Rydym yn chwilio am Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref i ymuno â’n tîm Diogelwch Tân Cymunedol yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.
Disgrifiad:
Adran Diogelwch Tân – Glannau Dyfrdwy neu Wrecsam
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Graddfa GTAGC 04 £26,835 - £27,711 y flwyddyn
Rydym yn chwilio am Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref i ymuno â’n tîm Diogelwch Tân Cymunedol yn ardal Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae gan Awdurdodau Tân ac Achub ddyletswydd, o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, i ddarparu gwybodaeth, cyhoeddusrwydd ac anogaeth er mwyn atal tanau, marwolaethau ac anafiadau cysylltiedig. Gan weithio gyda chymunedau Gogledd Cymru, mae Gweithwyr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref yn rhoi cyngor ac arweiniad, yn ogystal â gosod offer diogelwch tân addas yng nghartrefi’r grwpiau targed a nodwyd, gan gyfrannu at eu hiechyd, diogelwch a lles.
O fewn eu meysydd cyfrifoldeb, byddant hefyd yn cefnogi gweithgareddau ymwybyddiaeth diogelwch tân ac ymgyrchoedd diogelwch. Mae sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, gyda'r gallu i gyfathrebu’n hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg (Lefel 4). Mae agwedd agored ac agos-atoch yn allweddol, gan fod y rôl yn canolbwyntio ar gefnogi pobl agored i niwed i gadw’n ddiogel ac yn iach mewn ffordd barchus a chyfrinachol.
Dylai ymgeiswyr nodi y gallai fod gofyn iddynt weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar adegau prin, drwy gytundeb rhwng y ddwy ochr. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriad DBS Ehangach a geirdaon boddhaol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref
Cysylltiad Gweithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref