Gweinyddwr Gweithrediadau

Gweinyddwr Gweithrediadau

Trosolwg:

Diolch i haelioni ein cyllidwyr, rydym yn chwilio am weinyddwr profiadol, trefnus a phwrpasol i gyfrannu at weithrediad effeithlon ein helusen fechan, ddeinamig a phrysur.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Cyfraith Gymunedol y Gogledd
Cyflog: £25,000.00 cyfwerth â llawn amser (£15,000.00 y flwyddyn am 21 awr yr wythnos)
Dyddiad Cau: 11/05/2025 (19 diwrnod)
Amser Cau: 23:59:00
Lleoliad: Heulwen, Glyn y Marl Road, Llandudno Junction, Llandudno, Conwy, Cymru, LL31 9NS
Disgrifiad:

Teitl y Swydd: ​Gweinyddwr Gweithrediadau

Contract: ​Cyfnod penodol am flwyddyn, adnewyddu’n amodol ar gyllid.

Oriau:​​ 0.6 cyfwerth â llawn amser (21 awr yr wythnos).

Cyflog: ​£25,000.00 cyfwerth â llawn amser (£15,000.00 y flwyddyn am 21 awr yr wythnos)

Yn atebol i: ​​ Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Lleoliad:​​ Cyffordd Llandudno, Conwy.

Cefndir y swydd

Diolch i haelioni ein cyllidwyr, rydym yn chwilio am weinyddwr profiadol, trefnus a phwrpasol i gyfrannu at weithrediad effeithlon ein helusen fechan, ddeinamig a phrysur. Gan weithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gwblhau tasgau gweinyddol gweithredol o ddydd i ddydd (gan gynnwys cyfathrebu, AD, cyfleusterau, cyllid, cydymffurfiaeth a rheoli cytundebau), cydlynu prosiectau a chofnodi, monitro ac adrodd data. Bydd hefyd yn ofynnol i’r Gweinyddwr Gweithrediadau reoli cysylltiadau ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys y tîm cyfreithiol, aelodau’r bwrdd, sefydliadau cymunedol, cyllidwyr, llunwyr polisi a chyrff llywodraethol.

Cefndir Cyfraith Gymunedol y Gogledd

Ein gweledigaeth yw bod gan bawb yng Ngogledd Cymru fynediad at y gwasanaethau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hawliau, brwydro yn erbyn anghydraddoldeb a herio anghyfiawnder.

Mae Cyfraith Gymunedol y Gogledd yn elusen annibynnol, nid er elw, sy’n ymroddedig i drechu tlodi, hyrwyddo cydraddoldeb, a helpu pawb i greu cymdeithas sy’n fwy teg a chyfiawn. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim yn y gymuned ynghylch materion sy’n effeithio ar fywydau bob dydd pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio'r gyfraith fel dull o greu newid cymdeithasol, a rhannu gwybodaeth a sgiliau ar draws y sectorau cyfreithiol ac elusennol.

Ers agor ein drysau yn 2023 rydym wedi darparu cyngor cyfreithiol arbenigol i bobl mewn angen na fyddai ganddynt fynediad at gyfiawnder fel arall. Rydym wedi ffurfio partneriaethau cydweithio arloesol gyda sefydliadau llawr gwlad sy’n cefnogi unigolion, a gydag elusennau cenedlaethol sy’n herio cyrff cyhoeddus. Rydym wedi sefydlu proffil cenedlaethol ar draws Cymru a’r DU, gan hyrwyddo hawliau cyfreithiol pobl yng Ngogledd Cymru sydd ar ymylon cymdeithas oherwydd tlodi, gwahaniaethu, neu anfantais. Mae contract cymorth cyfreithiol a ddyfarnwyd yn ddiweddar ar gyfer tai a chyllid Llywodraeth Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i herio anghyfiawnder ac anghydraddoldeb ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. 

Dyletswyddau:

1. Cynorthwyo gyda chyflwyno cynllun cyfathrebiadau Cyfraith Gymunedol y Gogledd, diweddaru cyfryngau cymdeithasol, uwchlwytho cynnwys i’r wefan, a rhannu diweddariadau rheolaidd i wahanol gynulleidfaoedd.

2. Cynorthwyo gyda threfnu a chydlynu cyfarfodydd a digwyddiadau, gan gynnwys rheoli dyddiadur, lleoliadau, teithio a llety, cadw cofnodion a logisteg arall.

3. Gweinyddu AD, gan gynnwys anfon pecynnau recriwtio, cysylltu â darpar staff a gwirfoddolwyr newydd, cynnal ffeiliau personél a monitro dyddiadau allweddol.

4. Cynnal cyfleusterau Cyfraith Gymunedol y Gogledd ar gyfer staff a gwirfoddolwyr, cadw cofnod cyfredol a chywir o asedau (gliniaduron, ffonau symudol), cael dyfynbrisiau, trefnu atgyweiriadau a chysylltu â chyflenwyr. Prynu deunyddiau swyddfa ac adnoddau eraill yn ôl yr angen o fewn trothwyon gwariant penodol.

5. Prosesu anfonebau a hawliadau treuliau yn gywir ac yn amserol, cynnal cofnodion ariannol i gynorthwyo gyda monitro ac adrodd ar incwm a gwariant yn gywir ac yn amserol.

6. Sefydlu a chynnal prosesau i gasglu data allweddol, gan ddarparu gwybodaeth gywir ac amserol ar gyfer cynnwys cyfryngau, ceisiadau am gyllid, ac adroddiadau ar gyfer uwch staff, y bwrdd a chyllidwyr.

7. Diweddaru a chynorthwyo gyda gweithredu polisïau a gweithdrefnau sefydliadol sy'n cydymffurfio â chyllidwyr, rheoleiddwyr a'r Comisiwn Elusennau. 

8. Cynnal ein hymrwymiad i welliant parhaus drwy adolygu a datblygu ein prosesau gweinyddol yn rheolaidd, gan gynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd. 

9. Cyfrannu’n weithredol tuag at gyfarfodydd mewnol, gan gynnwys dysgu rhaeadrol.

10. Cefnogi eich llesiant eich hun ynghyd â llesiant y tîm ac annog amgylchedd gwaith cadarnhaol.

11. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill o'r fath yn ôl yr angen. 

Manyleb Person:

Hanfodol 

• Profiad gweinyddol blaenorol mewn amgylchedd gweithio prysur
• Sylw i fanylion ac ymrwymiad i gywirdeb
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Hyfedredd mewn system TG, defnyddio SharePoint, Teams ac Office365
• Gwybodaeth sylfaenol o brosesau a systemau ariannol
• Yn hynod drefnus gyda’r gallu i flaenoriaethau tasgau sy’n cystadlu am sylw a chwrdd â therfynau amser
• Ag uniondeb, yn gallu ymdrin â gwybodaeth sensitif a chyfrinachol yn ddoeth a phwyllog
 • Ymagwedd ragweithiol, sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau gydag ymrwymiad i ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon uchel.

Dymunol 

• Profiad o weithio yn y sector elusennol
• Hyfedredd wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, gyda dealltwriaeth dda o lwyfannau cyffredin (Facebook, X / BlueSky, LinkedIn, Instagram)
• Profiad o ddefnyddio systemau rheoli cleientiaid (Advice Pro), meddalwedd cyfrifyddu (Xero) a meddalwedd dylunio (Canva)
• Gallu siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

I wneud cais

Anfonwch e-bost at recruitment@nwcl.cymru, gyda theitl y swydd yn y llinell destun, ac atodi:

• CV cyfredol
• Llythyr eglurhaol yn egluro sut mae eich sgiliau, nodweddion a phrofiad yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Disgrifiad Swydd
• Ffurflen Monitro Cydraddoldeb wedi’i chwblhau
*Trefnwch y llythyr eglurhaol i ddarparu atebion i’r cwestiynau canlynol:

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos - dydd Sul yr 11eg o Fai 2025.

Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yng Nghyffordd Llandudno ddydd Mercher y 14eg o Fai 2025.

Rydym yn cydnabod gwerth safbwyntiau amrywiol yn ein gwaith ac yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir, cymuned, hunaniaeth a phrofiad, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad personol o’r anghydraddoldebau a’r anghyfiawnderau rydym yn ceisio mynd i’r afael â hwy.

Os bydd angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel rhan o’r broses recriwtio, gadewch i ni wybod drwy e-bostio recruitment@nwcl.cymru.

Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â Katherine Adams ar 01492 484802.

Edrychwn ymlaen at eich ymateb.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Ieuenctid Merthyr

Swyddog Ieuenctid Abertawe

Cynghorydd Cyffredinol