Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Gweiinyddydd Niche (Cydweithrediad Arfordir y Gorllewin)

Gweiinyddydd Niche (Cydweithrediad Arfordir y Gorllewin)

Trosolwg:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Gweinyddydd Niche Cag yn Cydweithrediad Arfordir y Gorllewin

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Heddlu Dyfed-Powys
Cyflog: £27,789 - £29,874
Dyddiad Cau: 13/11/2024
Amser Cau: 23:55:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Heddlu  Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl  Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran  TGCH
Lleoliad  Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol  Hyblyg
Gradd  D
Cyflog  £27,789 - £29,874
Rhan/Llawn Amser  Llawn Amser
Oriau'r Wythnos  37
Math o Gytundeb  Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol?  1
Dyddiad Cyfweliad  27 Tachwedd 2024
Dyddiad cau  13/11/24 23:55


Disgrifiad Hysbysiad Swydd  Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Gweinyddydd Niche Cag yn Cydweithrediad Arfordir y Gorllewin

Beth fyddwch chi’n ei wneud? 

Ymateb a darparu cymorth ar gyfer y SRhC Niche, gan ddarparu cymorth gweinyddol Niche

yn ôl yr angen. Darparu cyngor a gwybodaeth arbenigol i ddefnyddwyr terfynol CAG, gan

ddatrys materion a godir a nodi unrhyw feysydd pryder o gwmpas ansawdd data a chywirdeb system.

 

Gan weithio gyda chyfoedion gweinyddol a thechnegol CAG, ymgymryd â dadansoddi

achos craidd amser real o gwmpas materion data swyddogaethol cymhleth ar draws Niche a’I rhyngwynebau a’I rhaglenni cysylltiedig er mwyn lleihau aflonyddu ar gyfer

y sylfaen defnyddwyr cwsmeriaid gweithredol.

 

Ffurfweddu a rheoli’r system a chaniatâd mynediad er mwyn sicrhau y bodlonir

gofynion heddluoedd CAG, gan roi ystyriaeth ddyledus i ryngwynebau a chydddibyniaethau

modwlar ynghyd â gofynion diogelwch data (mynediad) cenedlaethol

a defnyddwyr lleol

 

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod i weld y proffil swydd. Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd ar dudalen olaf y proffil swydd fel arfer).  

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.  

 

Beth allwch chi ddisgwyl?  

Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno 
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus 
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle  
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi 
Cynllun pensiwn 
Rhwydweithiau Cymorth Staff 
Cyfleoedd gweithio hyblyg 
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch 
 

Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.  

 

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata. 

 

Amrywiaeth a’r Gymraeg  

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.  

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.   

Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.    

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.  

Pwynt gwybodaeth:  

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk 

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.  

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Ymchwilydd - Heno/Prynhawn Da

Gweithiwr Chwarae yng Nghlwb Carco Ysgol Gymraeg Y Fenni