Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Goruchwyliwr Gweithredol x 2

Goruchwyliwr Gweithredol x 2

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a gofalgar i fod yn rhan o'r siwrne ac i ymuno â’n tîm Cynnal a Chadw. Mae'r swyddi hyn yn cynnig gyfleoedd cyffrous i unigolion sy’n ffynnu mewn amgylchedd heriol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein cwsmeriaid eisiau byw. 

Rydym yn ehangu ein tîm Gwasanaeth Cynnal a Chadw Mewnol (DLO).    Mae’n gam cyffrous tuag at wella’r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i’n cymunedau ac yn cynnal dau noson agored i chi gael y cyfle i alw heibio a chael sgwrs hefo’r tím am y swyddi sydd ar gael.

Noson gyntaf i’w chynal yn: 

Swyddfa Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn,​Uned 8/9, Llys y Fedwen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4BL

17 Mehefin 2025  5pm – 7.30pm 

Yr ail noson i’w chynnal yn:

​Swyddfa Grŵp Cynefin, Tŷ John Glyn, 54 Stryd y Dyffryn, Dinbych. LL16 3BW

24 Mehefin 2025   5pm – 7.30pm

 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Grŵp Cynefin
Cyflog: £34,859 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 29/06/2025
Amser Cau: 23:59:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Ffôn: 03001112122
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

PWRPAS Y SWYDD:
• Helpu i reoli'r Gweithwyr Aml-grefft, Prentisiaid, Is-gontractwyr a'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni gwaith wedi'i raglennu a’i gynllunio, gwaith buddsoddi, atgyweiriadau ymatebol, gwaith ar eiddo gwag a phrosiectau gwaith eraill.

• Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n cael eu dosbarthu fel aml-sgil a gweithio ar stoc eiddo Grŵp Cynefin, eiddo sydd â thenantiaid yn byw ynddo ac eiddo gwag, ardaloedd cymunedol a gwaith cytundebol arall ar draws Gogledd Cymru.

• Pan fydd gwaith yn cael ei wneud gan wahanol grefftwyr, bydd y swydd yma yn arweinydd tîm yn ogystal ag yn grefftwr aml-grefft, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni i'r safon ofynnol, o fewn targedau, cyllideb ac amserlen.

• Fel arweinydd tîm, sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau yn unol â'r rheoliadau, y safonau a'r arfer gorau cyfredol.

• Sicrhau bod yr holl waith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithlon a chosteffeithiol, i'r fanyleb a'r safon angenrheidiol yn unol â'r holl reoliadau perthnasol i fodloni disgwyliadau’r sefydliad a thenantiaid.

• Ymgysylltu â thenantiaid, cydweithwyr a phartneriaid eraill yn ôl yr angen i hyrwyddo rhagoriaeth a boddhad darpariaeth gwasanaethau.

• Defnyddio dyfais symudol i gofnodi gwybodaeth yn effeithiol yn unol â chanllawiau i weithio’n effeithlon.
 

CYFRIFOLDEBAU SWYDD:

1. Cynorthwyo i reoli'n effeithiol yr holl weithredwyr aml-sgiliau, prentisiaid, isgysylltwyr ac adnoddau sydd eu hangen i atgyweirio eiddo, cynnal a chadw,gwneud gwaith ar eiddo sydd â thenantiaid yn byw ynddo ac eiddo gwag agwaith prosiect arall yn ôl yr angen.

2. Darparu gwasanaeth sy'n dangos perfformiad o safon uchel yn unigol ac fel tîmi ddangos bod y gwasanaethau rydych chi’n eu darparu yn gost-effeithiol ac ynrhoi gwerth am arian.

3. Cynnal pob math o atgyweiriadau a gosodiadau mewn eiddo lle mae tenantiaidyn byw ac eiddo gwag yn unol â’r archebion gwaith, apwyntiadau wedi'u trefnu,manylebau ac yn unol â'r rheoliadau perthnasol.

4. Cynnal gwaith gydag ethos o "Iawn y Tro Cyntaf" gan gwblhau gwaith mewn unymweliad pan mae hynny’n ymarferol, gyda chrefftwaith o ansawdd da a safonperfformiad uchel wrth weithio ar eich pen eich hun neu fel tîm.

5. Trefnu eich gwaith chi a'ch timau i leihau amser coll neu segur, gan egluro’nrhagweithiol os oes gennych ormod / rhy ychydig o waith fel y gellir ailddyrannugwaith neu roi gwaith ychwanegol i chi.

6. Y gallu i weithio'n effeithlon ac yn effeithiol ar eich pen eich hun neu fel rhan odîm, gan gynnwys gwaith aml-grefft, i ddiwallu anghenion busnes ar draws yrholl ffrydiau gwaith a ddarperir gan y Tîm Rheoli Asedau.

7. Arwain trwy esiampl fel arweinydd tîm a gweithio'n effeithlon ac yn effeithiol felaelod o dîm sy’n rheoli ei hun, annog ymdeimlad o gyfrifoldeb a phwrpas adarparu cefnogaeth a chyngor i gydweithwyr pan mae angen.

8. Bydd gofyn i chi ddefnyddio cadwyn gyflenwi Grŵp Cynefin ar gyfer prynu achasglu deunyddiau manyleb safonol o'r gangen agosaf i ble rydych chi'ngweithio. Gall hyn weithiau gynnwys ymgymryd â mesur a meintioli deunyddiaua chynorthwyo i gydlynu, cynllunio ac archebu threfnu deunyddiau a pheiriannauar gyfer tasg benodol.

9. Bydd disgwyl i chi allu penderfynu ar gynllun gweithredu i ddatrys problemaugwaith ac atgyweiriadau heb ddefnyddio gormod o ddeunyddiau nac amser.

10.Gwneud tasgau gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth a thrafod amserlenni gwaith gyda Chynllunwyr Adnoddau, Goruchwylwyr Gweithredol, Rheolwyr Gwasanaeth a chrefftwyr eraill, pan fydd angen

11.Cwblhau tasgau i'r safon ansawdd berthnasol a sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud o fewn targedau ac amserlenni y cytunwyd arnynt.

12.Cadw cofnodion naill ai ar bapur neu’n electronig yn ôl yr angen, gan sicrhau bod unrhyw ddyfeisiau symudol sydd eu hangen at bwrpasau gwaith yn cael eu gwefru ac yn bosib eu defnyddio yn ystod oriau gwaith.

13.Gwneud yr holl waith gyda pharch uchel at ofal a boddhad cwsmeriaid, gan gynnwys gwarchod dodrefn ac eiddo tenantiaid trwy ddefnyddio cynfasau llwch ac ati, glanhau wedyn, bod yn gwrtais, cyfeillgar a chymwynasgar bob amser a siarad â chwsmeriaid mewn ffordd ofalgar a chydymdeimladol. Gwneud eich dyletswyddau mewn perthynas â chwsmeriaid gyda pharch ac yn unol â chodau ymddygiad a safonau gwasanaeth Grŵp Cynefin.

14.Sicrhau fel arweinydd tîm bod yr holl waith yn cael ei wneud yn unol ag asesiadau risg a datganiadau dull sydd wedi eu cyhoeddi a chynnal asesiadau risg priodol ar y safle pan fydd angen cyn dechrau'r gwaith.

15.Cynnal archwiliadau iechyd a diogelwch yn ôl yr angen yn gymesur â'r swydd hon.

16.Gwneud yn siŵr bod eich cydweithwyr a chithau yn gwisgo ac yn defnyddio offer diogelu personol (PPE) bob amser a bod dull adnabod Grŵp Cynefin yn cael ei gario a'i ddefnyddio gan gydweithwyr bob amser.

17.Gwneud yn siŵr, fel arweinydd tîm, bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i ddiogelu eich iechyd, diogelwch a’ch lles eich hun, ein tenantiaid, cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd bob amser. Dangos a gweithredu Rhagoriaeth Iechyd, Diogelwch, Ansawdd ac Amgylcheddol (HSQE) i ddiogelu staff, cwsmeriaid a darparwyr gwasanaeth.

18.Bod yn gyfrifol ac yn atebol am eich perfformiad eich hun wrth weithio ar eich pen eich hun neu fel rhan o dîm yn unol â’r disgrifiad swydd hwn, polisïau, gweithdrefnau a phrosesau’r sefydliad.

19.Gweud yn siŵr bod y Rheolwr Gwasanaeth yn cael gwybod pan fydd tasgau’n cael eu cwblhau, a’ch bod chi a’ch tîm mor gynhyrchiol a phosib bob amser a bod unrhyw broblemau yn cael eu huwchgyfeirio.

20.Fel arweinydd tîm, cydnabod, cofnodi ac uwchgyfeirio achosion o berfformiad anfoddhaol gan aelodau'r tîm i'r Rheolwr Gwasanaeth. Cynorthwyo wella achosion o'r fath.

21.Sicrhau presenoldeb prydlon mewn gwaith wedi'i drefnu ymlaen llaw a mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi fel y cyfarwyddir gan reolwyr llinell.

22.Gw eud yn siŵr bod gwybodaeth tenantiaid a gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio yn unol â'r Rheoliadau Diogelu Data cyfredol.

23.Ymdrechu bob amser i wella boddhad, codi safonau a lleihau cwynion

24.Gweithio gyda chydweithwyr yn y Tîm Rheoli Asedau ar bob lefel i nodi meysydd i'w gwella a gweithio’n effeithiol.

25.Gweithio mewn partneriaeth ag adrannau, contractwyr a sefydliadau eraill yn ôl yr angen.

26.Cadw’ch gwybodaeth am newidiadau mewn deddfwriaeth sy’n effeithio ar y diwydiant yn gyfredol i fodloni rhwymedigaethau a gweithredu arferion gorau i wella gwasanaethau.

27.Dangos ymrwymiad clir i gyfle cyfartal a gofal cwsmeriaid ochr yn ochr ag arfer da, polisïau a chanllawiau sydd wedi eu sefydlu.

28.Bod ar gael i dderbyn galwadau wrth gefn y tu allan i oriau gwaith arferol ar system rota os a phan fydd angen.

29.Mentora a chynorthwyo gyda datblygiad prentisiaid neu hyfforddeion.

 

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Disgrifiad Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Cymorth Rhanbarthol x 4

Swyddog Llywodraethu

Rheolwr Cyhoeddi