Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Golygydd Llyfrau Cymraeg

Golygydd Llyfrau Cymraeg

Trosolwg:

Swydd: GOLYGYDD LLYFRAU CYMRAEG

Y prif orchwyl fydd llywio nifer penodol o lyfrau Cymraeg Y Lolfa i oedolion drwy’r wasg gan olygu’r llyfrau yn greadigol ac ymgymryd â phob gwaith cysylltiol. Yn ogystal â chydweithio â golygyddion eraill Y Lolfa bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydweithio gydag adran olygyddol y Cyngor Llyfrau ar rai teitlau. 

Bydd y Golygydd yn un o’n tîm golygyddol o chwech. Bydd yn atebol i Lefi Gruffudd, Pennaeth Cyhoeddi Y Lolfa. Mae hon yn swydd lawn amser ond rydym yn hapus i ystyried ymgeiswyr sydd am weithio yn rhan amser.  Rydym hefyd yn barod i ystyried penodi rhywun o dan hyfforddiant, sydd gyda’r sgiliau perthnasol ond heb brofiad penodol o weithio yn y maes llyfrau.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Y Lolfa Cyf
Cyflog: Cystadleuol
Dyddiad Cau: 18/03/2024
Amser Cau: 00:00:00
Enw Cyswllt: Garmon Gruffudd
Ffôn: 01970831902
Lleoliad: Talybont, Caernarfon neu/a gweithio gartref
Disgrifiad:

Dyletswyddau

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys gwneud y gwaith canlynol ar nifer penodol o deitlau Cymraeg Y Lolfa i oedolion. 

·         Rheoli a llywio llyfrau trwy’r wasg.

·         Sicrhau bod y testun yn gyflawn, yn glir, yn gywir ac yn gyson; ei fod yn cyfateb i ofynion y cytundeb, a’i fod yn cydymffurfio ag arddull y tŷ.

·         Cydweithio gyda’r awdur er mwyn mireinio’r arddull, cywiro camgymeriadau ffeithiol a chyfeiriadau gwallus/absennol, cwtogi lle bo angen a gwella’r strwythur.

·         Trefnu’r dalennau rhagarweiniol (teitl, awdur, nodyn hawlfraint, ISBN, tudalen gynnwys, cydnabyddiaethau, rhagair, etc.) a’r dalennau terfynol (atodiadau, llyfryddiaeth, mynegai, etc.)

·         Cyd-gysylltu gyda’r awdur, adrannau’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau.

·         Trefnu testun y clawr (yn cynnwys y broliant). 

·         Paratoi datganiadau i’r wasg a gwybodaeth hyrwyddo i’r adran farchnata.

·         Chwilio am luniau a sicrhau caniatâd. 

·         Darllen a deall cywiriadau golygyddion copi a’u gosod i mewn ar y sgrin gan ddefnyddio Word a rhaglenni tudalennu fel InDesign. (Rhoddir hyfforddiant).  

·         Trefnu golygu testunol a phrawfddarllen allanol pan fo’r angen yn codi. 

·         Comisiynu gwaith celf a chynllun y clawr; comisiynu neu ddewis dylunwaith ar gyfer corff y llyfr.

·         Cynnig syniadau ar gyfer cyfrolau a thrafod syniadau mewn cyfarfodydd golygyddol.

·         Derbyn ymholiadau, syniadau a chynhigion cyhoeddi, mynegi barn arnynt a sicrhau eu bod yn cael eu prosesu.

·         Paratoi deunydd gwybodaeth a marchnata am lyfrau ar wefannau mewnol ac allanol.

·         Gwneud gwaith gweinyddol amrywiol cysylltiedig.

·         Cyflawni tasgau eraill rhesymol yn ôl y galw.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Golygydd Llyfrau Cymraeg we

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Gweithiwr Chwarae yng Nghlwb Carco Ysgol Gymraeg Y Fenni

Cydlynydd Cefnogi Cylchoedd Bro Morgannwg