Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net
Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net
Trosolwg:
Oes gennych chi angerdd dros Ogledd Cymru ac awydd i weld y rhanbarth yn tyfu ac yn cyflawni ei botensial? Ydych chi'n frwdfrydig, ymroddedig ac yn chwaraewr tîm? Os felly, gallai'r rôl Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net hwn sy'n darparu trefniadau gweithio hyblyg, model gweithio hybrid, hawl gwyliau blynyddol hael, a chyfleoedd datblygu proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol – fod yn rôl i chi!
Disgrifiad:
Teitl swydd – Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net
Lleoliad – Llandudno, LL31 9RZ
Cyflog– £43,421 - £45,441 y flwyddyn
Cyfnod– cytundeb 2 flynedd cyfnod penodol/llawn amser
Sector – Ynni
Oes gennych chi angerdd dros Ogledd Cymru ac awydd i weld y rhanbarth yn tyfu ac yn cyflawni ei botensial? Ydych chi'n frwdfrydig, ymroddedig ac yn chwaraewr tîm? Os felly, gallai'r rôl Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net hwn sy'n darparu trefniadau gweithio hyblyg, model gweithio hybrid, hawl gwyliau blynyddol hael, a chyfleoedd datblygu proffesiynol mewn amgylchedd cefnogol – fod yn rôl i chi!
Ydych chi'n angerddol am ddatgarboneiddio a chryfhau statws Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer carbon isel? Rydym yn chwilio am reolwr prosiect profiadol a deinamig i ddarparu arweinyddiaeth, cefnogaeth a her ar draws prosiectau o fewn Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan gynnwys dau brosiect yn y sector hydrogen.
Byddwch yn gyfrifol am ddarparu prosiectau penodol o fewn y rhaglen, sy'n ceisio datgloi buddion economaidd mentrau ynni carbon isel trawsnewidiol a lleoli Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw yn y DU ar gyfer cynhyrchu carbon isel, arloesi a buddsoddiad yn y gadwyn gyflenwi. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cynnwys y canlynol:
1. Hwb Hydrogen Uchelgais Gogledd Cymru
2. Hwb Hydrogen Caergybi
3. Cydnerth
4. Gorsaf Bŵer Trawsfynydd
5. Egni
6. Ynni Lleol Blaengar
7. Gwaith Treulio Anerobig Glannau Dyfrdwy
Byddwch yn cael cyfle i chwarae rhan allweddol wrth gyflawni prosiectau carbon isel a datgarboneiddio, wrth greu swyddi newydd, datgloi buddsoddiad, a chynyddu ffyniant yng Ngogledd Cymru. Bydd y rôl yn rhoi cyfle i chi weithio gydag ystod eang o randdeiliaid yn y sector, gan gynnwys awdurdodau lleol, y llywodraeth, y sector preifat a'n prifysgolion a'n colegau. Os yw hyn yn swnio fel her sydd o ddiddordeb i chi ac mae gennych y sgiliau a'r profiad perthnasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Fel Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net gyda Uchelgais Gogledd Cymru, bydd rhai o'ch cyfrifoldebau yn cynnwys:
1. Rheoli a chefnogi datblygu a darparu rhaglenni ynni a datgarboneiddio rhanbarthol penodol gan Uchelgais Gogledd Cymru (e.e. Hybiau Hydrogen Cynllun Twf Gogledd Cymru, y disgwylir iddynt helpu i roi hwb i'r economi hydrogen yng Ngogledd Cymru)
2. Datblygu ac adolygu achosion busnes
3. Cyflawni amcanion unigol a chanlyniadau a thargedau cronnus rhaglenni ar amser ac o fewn yr adnoddau a ddyrannwyd
4. Cydlynu gweithgarwch a rhyng-ddibyniaethau ar draws y rhaglen a phortffolio'r Cynllun Twf ehangach.
5. Arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid gan gydweithio gyda phartneriaid i gyflawni amcanion a buddion.
Yn Uchelgais Gogledd Cymru, rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect Ynni a Sero Net sydd â'r canlynol:
1. Addysgwyd i lefel gradd neu brofiad cyfatebol mewn maes perthnasol
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o'r sector ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru
3. Y gallu i feithrin perthnasau ac ysgogi ac ysbrydoli eraill i weithredu. Y gallu i weithio a rei liwt ei hunain yn ogystal ag o fewn amgylchedd tîm.
4. Profiad o ddarparu rhaglenni a/neu brosiectau llwyddiannus o fewn yr amserlen ac i'r gyllideb.
5. Profiad o ymgysylltu cyhoeddus/rhanddeiliaid effeithiol.
6. Profiad blaenorol o reoli contractau.
7. Yn llythrennog mewn TGCh, yn gyfforddus gyda Word, PowerPoint, Excel a chronfeydd data perthnasol a chyfryngau cymdeithasol.
Mae'r tîm wedi mabwysiadu model gweithio hybrid gyda chymysgedd o weithio o swyddfa Cyffordd Llandudno a gweithio o gartref. Byddwch yn derbyn cyflog o £43,421 - £45,441 y flwyddyn ynghyd ag aelodaeth o'r cynllun pensiwn llywodraeth leol a hawl gwyliau blynyddol hael. Mae hon yn swydd llawn amser gydag Uchelgais Gogledd Cymru; Fodd bynnag, byddwn yn ystyried ceisiadau gweithio hyblyg ar gyfer y person cywir. Mae hwn yn gytundeb cyfnod penodol o 2 flynedd i ddechrau.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am ar 26/02/2024. Bydd angen cyflwyno'r holl ddogfennau cais erbyn y dyddiad hwn. Wrth wneud cais, anfonir cyfarwyddiadau pellach atoch ynglŷn â'r y broses ymgeisio. Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 7fed o Fawrth 2024
Os yw hyn yn swnio fel rôl Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net i chi, danfonwch e-bost atom gan ddefnyddio'r ddolen e-bost uchod a byddwn yn cysylltu â chi gyda'r camau nesaf yn y broses ymgeisio. Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych. Mae Gogledd Cymru yn lle gwych i fyw a gweithio a gallech chwarae rhan allweddol wrth lunio ei dyfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net
Cysylltiad Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net