Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Eiriolwr Dementia (Powys)
Eiriolwr Dementia (Powys)
Trosolwg:
Allwch chi’n helpu ni i wneud Cymru’n lle gwych i heneiddio ynddo? I’r rhan fwyaf o bobl, mae gwneud eu penderfyniadau a’u dewisiadau eu hunain yn fater o gryn bwys. Yn ogystal â’ch galluogi i fynegi eich hunaniaeth eich hun, mae bod yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau hefyd yn agwedd bwysig ar ryddid personol. Mae’r egwyddor hon wrth galon gwasanaethau eiriolaeth i bobl sy’n byw gyda dementia.
Disgrifiad:
Teitl y Swydd: Eiriolwr Dementia – Rhan Amser
Categori’r Swydd: Age Cymru – Prosiect Eiriolaeth Dementia
Lleoliad: Powys
Cyflog: £22,578 (CALl £28,222)
Math o Gytundeb: Cytundeb Tymor Penodol hyd at 31/3/26 - 28 awr yr wythnos
Mae Age Cymru yn recriwtio Eiriolwr Dementia rhan-amser (28 awr yr wythnos) i hyrwyddo a darparu eiriolaeth annibynnol i bobl sy’n byw gyda dementia yn ardal Powys. Mae’r swydd yn cynnig patrwm gwaith hybrid, cyfuniad o weithio gartref / yn y swyddfa yn Y Drenewydd a theithio ar hyd a lled Powys. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu car ar gyfer defnydd busnes a bydd costau teithio’n cael eu cynnwys. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ym Mhowys.
Nodwch: Mae’r cyflog a hysbysebir yn cyfateb i swydd amser llawn 35 awr yr wythnos. Telir cyflog pro-rata am 28 awr yr wythnos. Bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol; bydd hyn yn cael ei gadarnhau a’i drefnu ymlaen llaw.
RHAID cynnwys llythyr ategol llawn gyda phob cais, yn amlinellu eich sgiliau trosglwyddadwy a’ch profiad a pham yr hoffech chi weithio i Age Cymru yn cefnogi pobl hŷn sydd â dementia.
Byddwch chi’n:
· Profiad a gwybodaeth weithredol ynglŷn ag eiriolaeth (wedi’i chyfarwyddo a heb ei chyfarwyddo)
· Bod wedi cyflawni gwaith achos unigol
· Bod wedi gweithio gydag eraill ar brosiectau a gwasanaethau llwyddiannus (gan gynnwys sefydliadau statudol a gwirfoddol)
· Dealltwriaeth o ddementia a hawliau pobl sy'n byw gyda dementia
· Ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth a gweithdrefnau diogelu yng Nghymru
· Defnyddio strategaethau cyfathrebu creadigol er mwyn hwyluso cyfathrebu â phobl sy’n byw gyda dementia
· Bod yn hynod drefnus, cadarnhaol ac allblyg
· Gallu defnyddio holl becynnau MS Office, gan gynnwys Excel a Powerpoint
· Bod yn hyderus yn cyflwyno sesiynau hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth
· Cymhwyster lefel 4 City & Guilds mewn Eiriolaeth Annibynnol neu ymrwymiad i gyflawni hynny.
· Siarad Cymraeg (dymunol ond heb fod yn hanfodol)
Beth rydyn ni’n ei gynnig i chi:
· Gwyliau - 27 diwrnod yn cynnwys 24 diwrnod o ddewis a 3 diwrnod i’w defnyddio rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd - gan gynnwys dwyn ymlaen
· Cynllun Gweithio Oriau Hyblyg
· Pensiwn cyflogwr
· Yswiriant bywyd hael hyd at 4 gwaith eich cyflog blynyddol
· Cynllun gofal iechyd sy’n talu arian yn ôl
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Age Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac rydyn ni’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys ac addas, ni waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, statws ailbennu rhywedd, crefydd neu gredo, statws priodasol/partneriaeth sifil, os ydynt yn feichiog neu ar gyfnod mamolaeth. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau ar gyfer gweithio’n hyblyg.
Mae Age Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu oedolion sydd yn agored i niwed, a phlant, rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Rydyn ni’n disgwyl i bawb sydd yn gweithio i ni rannu’r ymrwymiad hwn.
Rydyn ni’n eich annog i ymgeisio’n gynnar oherwydd y byddwn yn cadw llygad ar geisiadau drwy gydol y cyfnod hysbysebu, ac mae gennym hawl i gau’r hysbyseb ar unrhyw bryd.
Hoffai Age Cymru ofyn i asiantaethau recriwtio a gwerthwyr yn y cyfryngau beidio â chysylltu. Dydyn ni ddim yn derbyn CVs ar hap gan asiantaethau recriwtio nac yn derbyn y ffïoedd sydd yn gysylltiedig â nhw.
Sut ydw i’n ymgeisio am y swydd hon?
· Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol sy’n nodi sut rydych chi’n bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd hon. Ni fydd eich cais yn cael ei ystyried heb y llythyr eglurhaol.
· E-bostiwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol at hr@agecymru.org.uk
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Job Description
Disgrifiad Swydd
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Eiriolwr Dementia (Powys)
Cysylltiad Eiriolwr Dementia (Powys)