Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Dirprwy Pennaeth
Dirprwy Pennaeth
Trosolwg:
Dirprwy Pennaeth - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Disgrifiad:
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr am y cyfle unigryw a chyffrous hwn i fod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli wedi ymrwymo'n gryf i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a'i nod yw darparu amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg ysbrydoledig a chreu cymuned ddiogel a hapus o fewn yr ysgol.
Mae'r ysgol yng Nghaerllion ar hyn o bryd ond bydd yn symud i ganol dinas Casnewydd yn ardal Pilgwenlli yn Ebrill 2025.
Arwyddair yr ysgol yw: Law yn Llaw fe Hwyliwn Dros y Tonnau. Bydd ein teuluoedd yn ymgartrefu mewn man diogel, rhywle i ollwng yr angor a datblygu yng nghymuned Pilgwenlli, yn barod i hwylio i’r dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein cyfrif X: @NantGwenlli a'n gwefan: www.nantgwenlli.cymru
Mae'r Corff Llywodraethol wedi ymrwymo i benodi Ddirprwy Bennaeth sydd yn:
• Arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein hysgol, gan gynnal a datblygu ethos addysg yng Nghymru
• Dyheu am ragoriaeth, gan feithrin a datblygu ein disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial
• Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a rhyngbersonol profedig i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol.
• Dangos ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad.
• Gallu meithrin perthnasau parchus gyda disgyblion, rhieni, y gymuned, staff a'r Corff Llywodraethol.
• Ceisio datblygu trefniadau cydweithio cryf gyda'r holl bartneriaid a sefydliadau sy'n cefnogi'r ysgol.
Bydd y llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol er mwyn sicrhau parhad a gwelliant yr ysgol lwyddiannus iawn hon.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr ymweld â'r ysgol ar 20/3/25. Os hoffech ddod, cysylltwch â Jennifer Maude ysgol.gymraegnantgwenlli@ysgolioncasnewydd.cymru i gadarnhau eich presenoldeb.
Dyddiadau Allweddol
Dyddiad cau: Mawrth 26ain, 2025
Creu Rhestr Fer: Mawrth 27ain, 2025
Ymweliad ysgol ar gyfer arsylwad gwers— wythnos yn dechrau Mawrth 31ain, 2025
Dyddiad arfaethedig ar gyfer cyfweliadau: Ebrill 7fed a 8fed, 2025
Dyddiad Cychwyn: Medi 2025
Mae'n rhaid i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais am y swydd hon, ewch i'n gwefan: www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Council-jobs/Council-Jobs-landing.aspx
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:
Advert
Hysbyseb
JD
Swydd Ddisgridiad
LlythrCOG
LetterCOG
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Dirprwy Pennaeth
Cysylltiad Dirprwy Pennaeth