Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol

Cynorthwy-ydd Cyfathrebu Digidol

Trosolwg:

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Cyfathrebu i ddarparu ystod eang o gyfathrebiadau digidol integredig fel y gall Barcud hysbysu, ysbrydoli, cynnwys a dylanwadu ar ei denantiaid a chynulleidfaoedd allweddol. Bydd y rôl yn cefnogi’r tîm i gynllunio a chynhyrchu cynnwys ar draws sianeli digidol sy’n eiddo i Barcud a pharhau i godi ei broffil trwy gyfryngau ysbrydoledig, dyfeisgar a chreadigol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Barcud Cyf
Cyflog: £19,020.15 - £20,994.69
Dyddiad Cau: 15/12/2022
Amser Cau: 12:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Ffôn: 0300 111 3030
Lleoliad: Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7HH
Disgrifiad:

• Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau digidol sy'n galluogi Barcud i ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd allweddol am ein gwasanaethau.
• Darganfod a chreu cynnwys cyfoethog o safon ar gyfer sianeli digidol Barcud e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-farchnata, blog, mewnrwyd ac ati.
• Ymgysylltu â chynulleidfaoedd a datblygu perthnasoedd â nhw ar-lein, gan sbarduno trafodaeth am faterion yn ymwneud â'r sector Tai ac ymgysylltu â thenantiaid, rhanddeiliaid a chymorth a chydweithwyr.
• Monitro cyfathrebiadau digidol Barcud yn unol â pholisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Cynhyrchu dadansoddeg fisol i asesu effeithiolrwydd cynnwys a weithredwyd.
• Darparu cefnogaeth olygyddol a marchnata digidol i adrannau eraill Barcud.
• Nodi tueddiadau a mewnwelediadau, gwerthuso technolegau sy'n dod i'r amlwg, a gwneud y gorau o berfformiad presenoldeb digidol Barcud. .
• Diweddaru a lanlwytho cynnwys i'n gwefan Wordpress.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Hysbyseb/Advert

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Darlithydd mewn Therapi Lleferydd ac Iaith - Cyfrwng Cymraeg

Swyddog Prosiect Ardal Arfordirol

Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Cyllid a Chyfrifeg