Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmeriaid a Swyddog Trwyddedu

Cynrychiolydd Gwasanaethau Cwsmeriaid a Swyddog Trwyddedu

Trosolwg:

Rydym yn awyddus i recriwtio pobl frwdfrydig sy'n siarad Cymraeg i ymuno â'n tîm fel Cynrychiolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Caerdydd
Cyflog: £21,968 - £24,054
Dyddiad Cau: 23/11/2023
Amser Cau: 17:30:00
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Cyfeirnod: RES00795

Dyddiad cau: 23/11/2023

Lleoliad: Caerdydd

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Nod Rhentu Doeth Cymru yw diogelu tenantiaid sy'n byw mewn tai rhent preifat drwy sicrhau bod landlordiaid ac asiantau yn gwybod beth sy'n ofynnol ganddynt i gydymffurfio â'r deddfau yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy weithredu Deddf Tai (Cymru) 2014, sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid gofrestru a naill ai gael eu trwyddedu eu hunain neu benodi asiant trwyddedig i ymgymryd â thasgau gosod a rheoli eiddo. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n gwefan

Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnal o Gaerdydd, ond mae'n gweithredu ledled Cymru i amddiffyn tenantiaid preifat a chynorthwyo landlordiaid ac asiantau i gydymffurfio.

Rydym yn awyddus i sefydlu swyddfa yng Ngogledd Cymru a’r bwriad yw cyflogi staff Cymraeg eu hiaith ar ei chyfer. Bydd ein recriwtiaid yn gweithio o gartref i ddechrau tra bod y prosiect ar y camau sefydlu, ond disgwylir i’r staff gael eu lleoli maes o law, o swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno mwy na thebyg.

Mae Rhentu Doeth Cymru yn wasanaeth modern ac yn elwa ar dechnoleg a ddyluniwyd a gyfer y cwsmer, trefniadau partneriaeth gyda 22 awdurdod lleol Cymru a chymorth ymgyrch farchnata gynhwysfawr.

Ynglŷn â’r swydd

Rydym yn awyddus i recriwtio pobl frwdfrydig sy'n siarad Cymraeg i ymuno â'n tîm fel Cynrychiolwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Mae'r swyddi'n rhan o Dîm Canolfan Gyswllt, sy’n darparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel dros y ffôn ac e-bost. Yn ogystal, mae rhan o'r rôl yn cynnwys gweithgareddau prosesu fel ceisiadau trwydded.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gefnogi a chynghori ystod eang o gwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol i'r sefydliad ac anelu at sicrhau bod ymholiadau cwsmeriaid yn cael eu datrys ar y pwynt cyswllt cyntaf, lle bo hynny'n bosibl.


Yr hyn rydym yn gofyn gennych chi
Mae hon yn swydd Cymraeg hanfodol, sy'n golygu bod yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig, i safon Lefel 4 Uwch.

Ceir dolen i'r disgrifiadau o'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen isod.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd brofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, sgiliau cyfathrebu, cynllunio, blaenoriaethu a dadansoddi gwych, bydd yn aelod ardderchog o dîm ac yn gyfrifol wrth ei waith.

Gwybodaeth ychwanegol

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio llwyfan ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn cyfweliad rhithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Sarah Griffin, Sarah.Griffin@caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Marchnata Cymdeithasol

Uwch-reolwr Awdurdodau Lleol

Swyddog Prosiect