Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwyydd Caffi a Chanolfan Ymwelwyr Byd Mary Jones

Cynorthwyydd Caffi a Chanolfan Ymwelwyr Byd Mary Jones

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am berson sydd â dawn ar gyfer lletygarwch a sgiliau rhyngbersonol ardderchog. Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn cynorthwyo rhedeg Byd Mary Jones o ddydd i ddydd. O baratoi a gweini bwyd ffres yn y caffi, i ysbrydoli ymwelwyr gyda stori Mary Jones yn y ganolfan ymwelwyr, byddwch yn rhoi profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf.

* Un swydd llawn amser 10yb-5yh o ddydd Mercher i ddydd Sul ynghyd â Gwyliau Banc
* Un cytundeb tymor penodol rhwng mis Mawrth a mis Medi, 10yb-4yh o ddydd Sadwrn i ddydd Sul


Bydd trefniadau rhan-amser neu rannu swydd yn cael eu hystyried

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cymdeithas y Beibl
Cyflog: £12 yr awr
Dyddiad Cau: 10/03/2024
Amser Cau: 23:59:00
Enw Cyswllt: Nerys Siddall
Ffôn: 01678 521877
Lleoliad: Llanycil, Y Bala, Gwynedd, Cymru, LL23 7YF
Disgrifiad:

Bydd y Cynorthwyydd Caffi / a Chanolfan Ymwelwyr yn helpu Rheolwr y Caffi a staff y canolfan ymwelwyr ym Myd Mary Jones. 
Mae hon yn swydd hyblyg sy’n ymwneud â gweithio yn y ganolfan a’r caffi gan ddibynnu ar alw cwsmeriaid. 
Bydd y rôl hon yn ymwneud â chroesawu amrywiaeth o ymwelwyr, gan gynnwys plant ysgol, drwy gydol yr haf ac yn sicrhau bod y ganolfan yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr.

Cyflwynwch eich CV ynghyd â datganiad o 250 o eiriau sy'n nodi eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â'r rôl hon. Gwnewch yn glir hefyd o ran y rôl rydych chi'n ymgeisio amdan i: biblesociety.org.uk/jobs

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Swydd Ddisgrifiad

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Marchnata

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Arwerthwr a Rheolwr Adran Da Byw