Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwydd Gweinyddol Gwasanaethau Democratiaeth

Cynorthwydd Gweinyddol Gwasanaethau Democratiaeth

Trosolwg:

Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud. Cynorthwyo’r Arweinydd tîm gyda....

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Cyngor Gwynedd
Cyflog: £20,444 - £22,129
Dyddiad Cau: 06/10/2022
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL55 1SH
Disgrifiad:

Cynorthwydd Gweinyddol Gwasanaethau Democratiaeth – GWASANAETH DEMOCRATIAETH AC IAITH

CYFLOG: £20,444 - £22,129

LLEOLIAD: Pencadlys, Caernarfon

Ref: 22-23000H2

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth  cliciwch ar y  [Pecyn Gwybodaeth](https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx) 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Annes Sion ar 01286 679490.

Ystyried secondiad ar gyfer y swydd yma

Rhagwelir cynnal cyfweliadau 18/10/2022.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU:  10.00 O’R GLOCH, DYDD IAU, 06/10/2022.

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn  yn cysylltu a chwi drwy’r

cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais.  Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio  eich  E-BOST yn rheolaidd.

Pwrpas y Swydd

- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Cynorthwyo’r Arweinydd tîm gyda gweinyddiaeth y tîm Democratiaeth o ddydd i ddydd ynghyd a’r Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith.

Cyfrifoldeb am Adnoddau.  . e.e. staff, cyllid, offer

Prif Ddyletswyddau

- Cefnogaeth i Aelodau
- Darparu cymorth gweinyddol i’r tîm democratiaeth (a’r Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith) yn ôl y galw.
- Cynorthwyo’r Arweinydd tîm i ddatblygu’r ddarpariaeth dechnegol ar gyfer cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor.
- Cynorthwyo’r tîm democratiaeth i gynnal cyfarfodydd hybrid a chyfarfodydd rhithiol gan ddarparu arbenigedd technegol
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chynnal rhaglen gwe-ddarlledu byw y Cyngor, “hostio” cyfarfodydd rhithiol a hybrid, ynghyd a’r holl elfennau eraill angenrheidiol megis rheoli’r meicroffonau, pleidleisiau, rhedeg fidoes ayyb.
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i gynnal y rhaglen o gyfarfodydd rhanbarthol gan gynnig y cymorth techengol uchod ar eu cyfer.
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i ddarparu hyfforddiant i’r Aelodau Etholiedig a swyddogion ar ddefnydd o’r dechnoleg mewn cyfarfodyd ffurfiol yn gyson ac yn ôl yr angen.
- Ymateb i ymholiadau a thrafferthion cyswllt gan Aelodau mewn pwyllgorau ffurfiol.
- Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i ddatblygu’r defnydd o raglen Modern.gov
- Cynnal a datblygu safle mewnrwyd yr Aelodau.
- Cofnodi mewn cyfarfodydd mewnol y Cyngor yn ôl yr angen.
- Delio ag ymholiadau gan y cyhoedd ac Aelodau etholedig mewn perthynas â gwaith pwyllgorau, yn arbennig unrhyw geisiadau rhyddid gwybodaeth.
- Darparu cymorth cyffredinol i Aelodau i ymgymryd â dyletswyddau cyffredinol yn eu gwaith fel Aelodau etholedig ee cynghori gyda materion TG ayyb.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau penodol o ran y maes cefnogi Aelodau fel bo’r angen (ee cyflogau Aelodau, cyrff allanol, calendr pwyllgorau, Hyfforddiant, cyd-bwysedd gwleidyddol)
- Cynorthwyo’r gwasanaeth gyda datblygiadau mewn meysydd technegol perthnasol i’r gwasanaeth fel Modern Gov, gwe ddarlledu, darlledu o bell, system pleidleisio yn y siambrau ayyb gan ymdrin ag unrhyw ofynion technegol i sicrhau fod y pwyllgor/cyfarfod yn rhedeg yn esmwyth.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gweinyddol perthnasol i’r Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith fel bo’r angen a’r cyfle yn codi.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Cydlynydd Ymchwil

Dylunydd Graffeg

Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu