Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)

Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)

Trosolwg:

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Cyflog: £21,197 i £23,144 y flwyddyn
Dyddiad Cau: 14/12/2022
Amser Cau: 23:59:00
Lleoliad: Campws Caerfyrddin (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)
Disgrifiad:

Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau)

Campws Caerfyrddin (gyda theithio i gampysau eraill yn ôl yr angen)

£21,197 i £23,144 y flwyddyn

- AMDANOM NI -

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn brifysgol sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth ac sy'n ymroddedig i sicrhau bod myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol yn datblygu'r wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol i ffynnu.

Cawsom ein gosod yn y 13eg safle ar gyfer ansawdd yr addysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da 2022 The Times a'r Sunday Times, ac yn yr wythfed safle yn y DU ar gyfer ‘Cynhwysiant Cymdeithasol’ yn nhabl y gynghrair hon eleni.

Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau) i ymuno â’n campws yng Nghaerfyrddin yn llawn-amser am gyfnod parhaol gan weithio 37 awr yr wythnos. 

- Y RÔL –

Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio’n effeithiol heb oruchwyliaeth barhaus a chyfrannu tuag at amgylchedd gyfeillgar a chreadigol y Ganolfan. Bydd yn cydweithio’n agos ac yn effeithiol gyda’r Cydlynydd Digwyddiadau a Phrosiectau er mwyn cefnogi gweithgareddau amrywiol yn y ganolfan ac ar-lein gan sicrhau trefniadaeth llyfn ac effeithiol. Elfen bwysig arall o’r rôl yw cefnogi rhaglen greadigol Yr Egin gan gynorthwyo’r Swyddog Cyfathrebu i hyrwyddo digwyddiadau byw, cynadleddau, sinema a gweithdai, ynghyd â sicrhau defnydd effeithiol o feddalwedd swyddfa docynnau a phlatfformau digidol a chyfryngau cymdeithasol.  

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth, lle cewch hefyd restr o feini prawf hanfodol a dymunol ‘Manyleb y Person'. 

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried ar gyfer rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), bydd arnoch angen y canlynol:

-       Addysg gyffredinol dda

-       Tystiolaeth o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel

-       Profiad o weinyddu trefniadau cyfarfodydd, cynadleddau neu ddigwyddiadau 

-       Profiad blaenorol o ddarparu cefnogaeth weinyddol o safon

-       Hyddysg mewn TG ac yn meddu ar wybodaeth am becynnau Microsoft Office, a phlatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein

-       Y gallu i gydlynu gweithgareddau’n effeithiol 

-       Medrusrwydd gyda phlatfformau arlein 

-       Yn barod i weithio’n hyblyg, gan gynnwys teithio rhwng campysau a lleoliadau pan fo angen

-       Cydnabod yr angen am gyfrinachedd priodol a gallu gweithredu ar hynny

-       Dangos parch tuag at ystod amrywiol o bobl.

-       Siaradwr/aig Cymraeg gyda’r gallu i sgwrsio’n hyderus yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gyda’r gallu i ysgrifennu am faterion annhechnegol *

Byddai’n fuddiol hefyd pe bai gennych y canlynol:

-       Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad digwyddiadau byw, theatr neu sinema

-       Diddordeb brwd yn y diwydiannau creadigol.

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion gwych yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

- Cyflog ac amodau da; rydym yn gyflogwr cyflog byw achrededig ac yn cynnig cyflog cystadleuol

- Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

- Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth ychwanegol â thâl

- Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

- Cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, gan gynnwys gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

- Gostyngiadau i staff ar ystod o gynhyrchion a gwasanaethau

- Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith

Felly, os ydych yn awyddus i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal ein Prifysgol yn rôl y Cynorthwy-ydd Profiad Cwsmer (Digwyddiadau), gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol. 

Dyddiad cau: 14 Rhagfyr 2022, 11:59pm

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Cymraeg i Oedolion

Rheolwr Prosiect y Grŵp

Asesydd Fferm