Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynorthwy-ydd Llyfrgell Dan Hyfforddiant (x2 swydd)

Cynorthwy-ydd Llyfrgell Dan Hyfforddiant (x2 swydd)

Trosolwg:

Mae ein swyddi dan hyfforddiant yn cynnig profiad gwaith go iawn gyda hyfforddiant ar y swydd wedi’i gefnogi gan ein darparwyr hyfforddiant cymeradwy. Gan arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn swyddogol, mae swyddi dan hyfforddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffordd wych o ennill arian wrth ddysgu.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyflog: £24,336
Dyddiad Cau: 27/06/2025
Amser Cau: 11:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3BU
Disgrifiad:

CYFLE ARBENNIG O FEWN Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL

x2 SWYDD CYNORTHWY-YDD LLYFRGELL DAN HYFFORDDIANT

(gan ddilyn cwrs Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth – Lefel 2) Swyddi tymor penodol yn ystod y cyfnod hyfforddi (yn arwain i swyddi parhaol wedi cymhwyso) 37 awr yr wythnos Cyflog: £24,336

Swyddi dan Hyfforddiant yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae ein swyddi dan hyfforddiant yn cynnig profiad gwaith go iawn gyda hyfforddiant ar y swydd wedi’i gefnogi gan ein darparwyr hyfforddiant cymeradwy. Gan arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn swyddogol, mae swyddi dan hyfforddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffordd wych o ennill arian wrth ddysgu.

Mae’r cwrs Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth yn raglen hyfforddi sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol fel llwybr mynediad i yrfaoedd yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth yng Nghymru.

Nid dim ond ceidwaid llyfrau a chasgliadau yw llyfrgellwyr mwyach. Maent yn ymgymryd ag ystod eang o swyddogaethau eraill, gan gynnwys rheoli adnoddau electronig.

Byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser yn dysgu drwy eich rôl ddydd i ddydd o fewn y Llyfrgell gan fynychu sesiynau dysgu ar-lein. Bydd gennych eich mentor mewnol o fewn y Llyfrgell a chymorth gan eich asesydd cwrs, a fydd yn ymweld â chi yn y gwaith neu ar-lein i’ch cefnogi.

Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i'r swyddi hyn.

Cadwraeth
Mae’r Cynorthwy-ydd Cadwraeth yn gofalu am holl gasgliadau’r Llyfrgell – llyfrau, archifau, mapiau, ffotograffau a chelf.

Weithiau mae angen glanhau hen ddogfennau, weithiau mae angen eu trwsio neu eu rhoi mewn bocsys newydd.

Oes gennych chi sgiliau celf neu grefft, ac yn medru gweithio’n ofalus gyda’ch dwylo?

Ffotograffau
Mae’r Cynorthwy-ydd Ffotograffiaeth yn helpu rhoi trefn ar ein casgliadau ffotograffau, a gwneud rhestr o’r cynnwys er mwyn i bawb eu gweld a’u defnyddio.

Mae’r casgliad ffotograffau yn bwysig i adrodd hanes Cymru, ei threfi a’i phobl, ac yn cynnwys ffotograffau cynnar iawn a ffotograffau modern.

Ydych chi’n berson trefnus gyda diddordeb mewn hanes, hanes eich teulu neu hanes eich ardal? Oes gennych chi sgiliau defnyddio data ac yn medru gweithio’n ofalus ac amyneddgar?

Cyfle i ymweld
Bydd cyfle i chi ymweld â’r Llyfrgell ar ddydd Llun, 23 Mehefin 2025 rhwng 10.00 a 12.00 i gael sgwrs gyda’r staff am y gwaith ac i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael.

Dylid cysylltu drwy e-bost i swyddi@llgc.org.uk i gofrestru erbyn 19 Mehefin 2025.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Fideo:

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Gohebydd: Heno / Prynhawn Da

Cynorthwyydd Glanhau

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata