Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cynorthwy-ydd Cyflenwi Busnes
Cynorthwy-ydd Cyflenwi Busnes
Trosolwg:
Rydym, ar hyn o bryd, yn recriwtio am Gynorthwyydd Cyflenwi Busnes llawn amser ar gontract parhaol yn ein Swyddfa Caerdydd (Gweithio Hybrid).
Disgrifiad:
Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol
Fel ariannwyr mwyaf treftadaeth y DU, ein gweledigaeth yw i dreftadaeth gael ei gwerthfawrogi, gofalu amdani a'i chynnal i bawb, nawr ac yn y dyfodol.
Credwn yng ngrym treftadaeth i danio'r dychymyg, cynnig llawenydd ac ysbrydoliaeth, ac i adeiladu balchder mewn lle a chysylltiad i'r gorffennol.
Ein cenhadaeth yw defnyddio ein harbenigedd i gefnogi a hyrwyddo treftadaeth y DU a dangos potensial trawsnewidiol arian y Loteri Genedlaethol trwy gyflawni ein strategaeth newydd Treftadaeth 2033. Rydym yn sicrhau bod arian gan y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth pendant i bobl, lleoedd a chymunedau.
Rydym, ar hyn o bryd, yn recriwtio am Gynorthwyydd Cyflenwi Busnes llawn amser ar gontract parhaol yn ein Swyddfa Caerdydd (Gweithio Hybrid).
Mae Cynorthwyydd Cyflenwi Busnes yn chwarae rhan allweddol mewn ystod eang o swyddogaethau gweinyddol ar draws y tîm Gwlad. Mae'n rôl amrywiol sy'n cefnogi'r broses dyfarnu grantiau ar gyfer y tîm Ymgysylltu a Buddsoddi i redeg yn esmwyth ac yn effeithlon. Rydym yn chwilio am unigolion sy'n gwerthfawrogi gweithio mewn tîm agos, yn cydweithio'n dda, yn darparu gofal cwsmeriaid gwych (yn Gymraeg a Saesneg) ac sy'n mwynhau boddhad swydd sydd wedi'i gwneud yn dda.
Bydd y Cynorthwyydd Cyflenwi Busnes yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth ddwyieithog y Gronfa Treftadaeth i ymgeiswyr, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n cynnal eu busnes yn Gymraeg a Saesneg. Hoffem benodi ymgeisydd sydd â sgiliau Cymraeg.
Os ydych chi'n teimlo'n gyffrous am helpu i sicrhau bod treftadaeth sy’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, yna rydym am glywed gennych.
Ceisiadau yn cau ar 17 Tachwedd 2024.
Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal ar 3 Rhagfyr 2024.
Ein Gwerthoedd
Mae ein Gwerthoedd a'n Hymddygiad wrth wraidd ein gwaith ac maent yn ganolog i'r ffordd rydym yn recriwtio. Mae'r ffordd rydych chi'n dangos ein gwerthoedd yr un mor bwysig i ni â'ch sgiliau a'ch profiad.
Cynhwysol o bob agwedd ar dreftadaeth, pobl a chymunedau
Uchelgeisiol ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a'n treftadaeth
Cydweithio drwy weithio a dysgu gyda'n gilydd
Ymddiried yn ein gonestrwydd, ein harbenigedd a'n barn
Gweithio’n Hyblyg
Mae gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol swyddfeydd ledled y DU ac rydym yn hyrwyddo dull hyblyg o weithio lle mae hyn yn cefnogi ein hanghenion busnes. Rydym wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid yn ffurfiol. Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o weithwyr yn gweithio o swyddfa Cronfa Treftadaeth dan gontract ddwywaith yr wythnos o leiaf. Mae'r amser a dreulir ar ymweliadau safle â phrosiectau neu gyfarfodydd eraill sydd wedi'u lleoli swyddfa arall y Gronfa Treftadaeth neu swyddfa allanol arall yn cael ei gyfrif fel rhan o'r ddau ddiwrnod hynny. Gall weithio o adref ar dyddiau eraill yn ytsod yr wythnos.
Cyflogwr Hyderus i'r Anabl
Rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer pob swydd wag. Rydym bob amser yn ymdrechu i wneud addasiadau rhesymol a gellir trafod a threfnu gofynion arbennig cyn cyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *