Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cynorthwy-ydd Caffael a Chontract
Cynorthwy-ydd Caffael a Chontract
Trosolwg:
Cynorthwy-ydd Caffael a Chontract
Casnewydd, Cymru (gyda gwaith hybrid)
Amdanom ni
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Caffael a Chontractau i ymuno â ni ar sail barhaol, amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Disgrifiad:
Cynorthwy-ydd Caffael a Chontract
Casnewydd, Cymru (gyda gwaith hybrid)
Amdanom ni
Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar gymwysterau a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys TGAU, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol.
Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Caffael a Chontractau i ymuno â ni ar sail barhaol, amser llawn, gan weithio 37 awr yr wythnos.
Y Manteision
- Cyflog o £26,900 - £30,610
- 30 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (a gwyliau cyhoeddus a chau swyddfeydd dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Dyma’r cyfle delfrydol i unigolyn rhagweithiol ac ymroddedig roi hwb I yrfa ym maes caffael mewn amgylchedd sy’n cynnig hyfforddiant ffurfiol ac yn y gwaith, yn ogystal â chefnogaeth ragorol.
Y Rôl
Fel Cynorthwyydd Caffael a Chontractau, byddwch yn cefnogi’r gwaith o gyflawni gweithgareddau caffael a rheoli contractau.
Gan sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian o'n prosesau prynu, byddwch yn gweithio gyda chyflenwyr, yn lleihau risg ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth caffael.
Byddwch yn rheoli caffael gwerth isel a heb fod yn gymhleth ac yn cynorthwyo gyda gweithgareddau gwerth uwch i gefnogi'r Pennaeth Caffael a'r Rheolwr Contractau.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Cynnal ymchwil marchnad
- Cynghori staff ar weithdrefnau caffael
- Gweinyddu amrywiaeth o weithgareddau contract
Amdanoch Chi
I gael eich ystyried yn Gynorthwyydd Caffael a Chontract, bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o drefnu a ffeilio gwybodaeth
- Profiad o reoli gwahanol dasgau gwaith i gyrraedd terfynau amser
- Profiad o weithio mewn tîm i gyflawni amcanion a rennir
- Profiad o ymateb i ymholiadau cwsmeriaid
- Llythrennedd TG gan gynnwys Microsoft Office ac yn ddelfrydol Teams a SharePoint
- Safon dda o lythrennedd a rhifedd
Byddai gweithio tuag at, meddu ar neu barodrwydd i ennill cymhwyster CIPS hyd at Dystysgrif Uwch lefel 3 yn ddymunol, yn ogystal â gwybodaeth am reolau caffael cyhoeddus. Byddai ymwybyddiaeth o ddiwygiadau deddfwriaethol arfaethedig hefyd yn fantais, yn ogystal â’r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 13 Rhagfyr 2022.
Gallai sefydliadau eraill alw hyn yn Gynorthwyydd Caffael, Cynorthwyydd Contractau, Cynorthwyydd Prynu, Prynwr Iau, Swyddog Caffael, neu Gynorthwyydd Rheoli Contractau.
Felly, os ydych chi'n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa fel Cynorthwyydd Caffael a Chontractau, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Cynorthwy-ydd Caffael a Chontract
Cysylltiad Cynorthwy-ydd Caffael a Chontract