Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo
Trosolwg:
Oes gennych chi radd? Neu'n graddio flwyddyn yma?
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes rheoli tir ac eiddo. Bydd cyfle i’r hyfforddai proffesiynol gynghori ac ymdrin ac amrediad o feysydd gwaith, i gynnwys prisio, negodi, prydlesu, prynu a gwerthu, a hynny yn galluogi’r hyfforddai i enyn profiad digonol er mwyn cymhwyso fel Syrfëwr Siartredig.
Disgrifiad:
CYNLLUN YFORY 2022 - Cynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd
Mae Cynllun Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd gyda gradd neu gymhwyster cyfwerth i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Mae'r cynllun yn rhoi cyfle unigryw i hyfforddeion proffesiynol i ddeall mwy am weithio i lywodraeth leol drwy gael amryw o brofiadau ymarferol o bob lefel o'r sefydliad, i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y maes rheoli tir ac eiddo, i ddatblygu rhwydweithiau ar draws y Cyngor a thu hwnt ac ar yr un pryd ennill cymhwyster Gradd Meistr mewn Rheolaeth Eiddo.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig sydd â’r ymroddiad i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a thechnegol cryf yn y maes rheoli tir ac eiddo. Bydd cyfle i’r hyfforddai proffesiynol gynghori ac ymdrin ac amrediad o feysydd gwaith, i gynnwys prisio, negodi, prydlesu, prynu a gwerthu, a hynny yn galluogi’r hyfforddai i enyn profiad digonol er mwyn cymhwyso fel Syrfëwr Siartredig.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol a bod yn rhan o weithlu arbennig, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/cynllunyfory
Mae cyswllt ar y wefan i’r pecyn gwybodaeth sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl o’r cynllun a chanllawiau i chi ar gyfer cwblhau eich cais yn llwyddiannus.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i hyfforddai arbenigol ymuno gyda’r Uned Stadau o fewn yr Adran Tai ac Eiddo, i ddilyn gyrfa ym maes Rheoli Tir ac Eiddo.
Bydd yr hyfforddai llwyddiannus yn darparu cefnogaeth ar Reolaeth Eiddo i holl wasanaethau’r Cyngor, a bydd cyfle i’r hyfforddai enyn profiadau eang ar draws amrediad o feysydd gwaith i gynnwys prisio tir ac eiddo, rheoli prydlesi, materion rheolaeth stad a phrynu a gwerthu eiddo.
Byddwch yn dilyn gradd Meistr mewn Rheoli Eiddo, gyda'r nod o ddatblygu i fod yn Syrfëwr Siartredig gyda’r RICS.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd ar gael isod
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo
Cysylltiad Cynllun Yfory – Hyfforddai Proffesiynol Rheoli Tir ac Eiddo