Cynllun Yfory (Cynllun Graddedigion) Cyngor Gwynedd x8
Cynllun Yfory (Cynllun Graddedigion) Cyngor Gwynedd x8
Trosolwg:
Ydych chi eisiau bod yn arweinydd neu arbenigwr? Os hynny, dyma swyddi newydd Cynllun Yfory ar gyfer 2025. Mae hyfforddeion proffesiynol ar y cynllun arbennig hwn yn cwblhau cymhwyster ôl-radd tra’n mwynhau profiadau ymarferol ar draws adrannau’r Cyngor i ddatblygu eu sgiliau. Dyma gyfle unigryw i unigolion uchelgeisiol ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau gyrfa hir a llewyrchus yng Nghyngor Gwynedd.
We are re-directing you
* Please mention the Lleol.cymru website when enquiring or applying for this position. *
Disgrifiad:
Cynllun Yfory (Cynllun Graddedigion Cyngor Gwynedd)
Ydych chi eisiau bod yn arweinydd neu arbenigwr? Os hynny, dyma swyddi newydd Cynllun Yfory ar gyfer 2025. Mae hyfforddeion proffesiynol ar y cynllun arbennig hwn yn cwblhau cymhwyster ôl-radd tra’n mwynhau profiadau ymarferol ar draws adrannau’r Cyngor i ddatblygu eu sgiliau. Dyma gyfle unigryw i unigolion uchelgeisiol ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer sicrhau gyrfa hir a llewyrchus yng Nghyngor Gwynedd.
Cynhelir cyfweliadau Cynllun Yfory ar y 10/06/25 neu’r 12/06/25.
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Shannon Marie Jones ar 01286 679599
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
** PWYSIG **
Cofiwch enwi Teitl y swydd Hyfforddai Proffesiynol yr ydych yn ymgeisio amdani (e.e.. Swydd Hyfforddai Rheoli Risg - Cynllun Yfory). Dewiswch un o deitlau swyddi eleni isod:
• Hyfforddai Proffesiynol Prosiectau Digidol
• Hyfforddai Proffesiynol Ecolegydd Cynllunio
• Hyfforddai Proffesiynol Iechyd yr Amgylchedd
• Hyfforddai Proffesiynol Cynllunio
• Hyfforddai Proffesiynol Newid Hinsawdd ac Amgylchedd ACGCC (Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru)
• Hyfforddai Proffesiynol Cyllid a Chyfrifeg
• Hyfforddai Proffesiynol Iechyd Diogelwch a Llesiant
• Hyfforddai Proffesiynol Trethi a Budd-daliadau
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cynllun Yfory (Cynllun Graddedigion) Cyngor Gwynedd x8
Cysylltiad Cynllun Yfory (Cynllun Graddedigion) Cyngor Gwynedd x8