Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynhyrchydd Ffeithiol

Cynhyrchydd Ffeithiol

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Ffeithiol i ymuno â thîm Rondo ar amryw o raglenni cyffrous. Mae’r rôl yn berffaith ar gyfer unigolyn profiadol,  creadigol ac egnïol sy’n mwynhau ac yn deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau llinol a digidol.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn blaengar greu cynnwys cyffrous a beiddgar.

Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal.  Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. 

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Rondo Media
Cyflog: I'w drafod
Dyddiad Cau: 14/04/2025
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Manon Lewis Owen
Ffôn: 01286 675722
Lleoliad: Gellir gweld manylion y lleoliad yn y disgrifiad
Disgrifiad:

Bydd disgwyl i’r Cynhyrchydd Ffeithiol fod yn gyfrifol am greu cynnwys apelgar, sy'n gywir ac yn gyffrous. Bydd disgwyl iddynt oruchwylio’r broses gynhyrchu gyfan, o ddatblygu’r cysyniad drwy ymchwilio a gwirio gwybodaeth i gydlynu ag aelodau amrywiol o’r tîm; rheoli cyllidebau ac amserlenni a sicrhau bod y rhaglen derfynol yn gwireddu'r weledigaeth ac yn bodloni safonau rheoliadau darlledu. 

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Cynhyrchydd Ffeithiol

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Swyddog Ti a Fi Teithiol Rhyl, Rhuddlan a Dyserth

Swyddog Ieuenctid Abertawe

Rheolwr y Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg