Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol

Trosolwg:

Mae Archesgob Cymru yn ffigwr cyhoeddus amlwg gyda phroffil cryf yn y cyfryngau. Rydym yn ceisio cefnogi ei rôl gyda mwy o adnoddau digidol. Dyma gyfle cyffrous i berson creadigol ac ymroddedig ymuno â gweinidogaeth egnïol ac amrywiol. Bydd y rôl yn cynnwys teithio a pheth gwaith dros nos ac ar benwythnosau. Mae'r gallu i weithio yn Gymraeg yn hanfodol.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Yr Eglwys yng Nghymru
Cyflog: Gradd - C (£28,610 - £32,370 y flwyddyn)
Dyddiad Cau: 10/01/2025
Amser Cau: 10:00:00
Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol
Ffôn: 02920348200
Lleoliad: Swyddfa Archesgob Cymru, Bangor / Ystyrir trefniadau gweithio hybrid
Disgrifiad:

Cynhyrchydd Cynnwys Digidol 

(yn cefnogi Archesgob Cymru)

Gradd - C (£28,610 - £32,370 y flwyddyn)

Lleoliad – Swyddfa Archesgob Cymru, Bangor / Ystyrir trefniadau gweithio hybrid.

Parhaol – Llawn-amser (34.75 awr yr wythnos). 

Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn patrymau gwaith amgen yn cael eu hystyried; Fodd bynnag, gall anghenion busnes osod cyfyngiadau ar y trefniadau a gynigir.

Mae Archesgob Cymru yn ffigwr cyhoeddus amlwg gyda phroffil cryf yn y cyfryngau. Rydym yn ceisio cefnogi ei rôl gyda mwy o adnoddau digidol. Dyma gyfle cyffrous i berson creadigol ac ymroddedig ymuno â gweinidogaeth egnïol ac amrywiol. Bydd y rôl yn cynnwys teithio a pheth gwaith dros nos ac ar benwythnosau. Mae'r gallu i weithio yn Gymraeg yn hanfodol.

Fel rhan o Dîm Cyfathrebu mwy, byddech yn gweithio'n agos gyda thîm yr Archesgob er mwyn:

• Hyrwyddo gwaith yr Archesgob drwy raglen ragweithiol o gynhyrchu amlgyfrwng.

• Darparu cymorth cyfathrebu ar gyfer ymweliadau'r Archesgob i leoliadau i ffwrdd o Fangor

• Datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfraniadau ysgrifenedig i'r cyfryngau traddodiadol a digidol.

• Sganio’r gorwel ar gyfer achlysuron lle dylai'r Archesgob gynnig llais rhagweithiol.

• Datblygu cyfleoedd ar gyfer cyfraniadau i raglenni darlledu.

• Cyfrannu at gyfathrebu ar waith eciwmenaidd a rhyng-ffydd

Yn ddelfrydol, byddwch chi'n Gynhyrchydd Cynnwys Digidol profiadol (neu debyg) hyfedr mewn meddalwedd fel Premiere Pro, Final Cut Pro, Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects ac yn brofiadol gyda SEO, tueddiadau cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.  Bydd gennych wybodaeth a dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol ac o hanes, diwylliant ac amrywiaeth Cymru. 

Bydd angen sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, meddylfryd creadigol, ac angerdd am adrodd straeon, ynghyd â'r gallu i aml-dasgio. i gwrdd â therfynau amser, i weithio ar y cyd ac i  feistroli manylion.  Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS boddhaol.

Dyddiad cau: 10 Ionawr 2025 at 10:00yb

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Rheolwr Prosiect - Dyffryn Caredig

Rheolwr Materion Rheoleiddiol

Clerc Cyllid Iau