Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben
Cynghorydd y Gymraeg
Cynghorydd y Gymraeg
Trosolwg:
Mae Ofcom, rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, yn goruchwylio ystod eang o wasanaethau gan gynnwys ffonau, band eang, teledu, radio, gwasanaethau post, a dyfeisiau diwifr. Eu cenhadaeth yw cadw'r DU yn gysylltiedig a gwneud y byd ar-lein yn fwy diogel.
Maen nhw nawr yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg medrus a brwdfrydig i ymuno â’u tîm yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio eich arbenigedd yn y Gymraeg i gael effaith wirioneddol ar sut mae pobl ledled Cymru yn cysylltu ac yn cyfathrebu.
Disgrifiad:
Teitl: Cynghorydd y Gymraeg
Contract: Llawn amser, contract tymor penodol o 12 mis
Lleoliad: Hybrid
Cyflog: Cystadleuol
Mae Ofcom, rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU, yn goruchwylio ystod eang o wasanaethau gan gynnwys ffonau, band eang, teledu, radio, gwasanaethau post, a dyfeisiau diwifr. Eu cenhadaeth yw cadw'r DU yn gysylltiedig a gwneud y byd ar-lein yn fwy diogel.
Maen nhw nawr yn chwilio am Gynghorydd y Gymraeg medrus a brwdfrydig i ymuno â’u tîm yng Nghymru. Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio eich arbenigedd yn y Gymraeg i gael effaith wirioneddol ar sut mae pobl ledled Cymru yn cysylltu ac yn cyfathrebu.
Fel Cynghorydd y Gymraeg, byddwch yn cyfrannu at sut mae gwasanaethau Cymraeg Ofcom yn cael eu darparu, a byddwch yn ymwneud ag amrywiaeth o waith. Byddwch yn cyfieithu ac yn prawfddarllen cynnwys o’r Saesneg i’r Gymraeg ar gyfer llwyfannau amrywiol gan gynnwys gwefannau a chyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn rheoli’r broses gyfieithu o un pen i’r llall ar gyfer cyhoeddiadau Ofcom, gan gydlynu â thimau mewnol a darparwyr cyfieithu allanol. Byddwch hefyd yn cyhoeddi cynnwys Cymraeg ar-lein, yn profi teithiau defnyddwyr, ac yn sicrhau ansawdd. Yn ogystal, byddwch yn cadw cofnodion cywir o brosiectau cyfieithu ac yn cefnogi rhagolygon ariannol ar gyfer costau cyfieithu. Gallwch hefyd gefnogi digwyddiadau a chyflwyniadau dwyieithog, gan gynnwys trefnu cyfieithu ar y pryd pan fo angen.
Maen nhw’n chwilio am rywun sydd â chymhwyster cyfieithu, Cymraeg ysgrifenedig a llafar rhagorol, sgiliau cyfieithu a phrawfddarllen cryf, a phrofiad o gyhoeddi cynnwys Cymraeg ar draws llwyfannau digidol. Dylech fod yn hyderus wrth reoli prosiectau lluosog a therfynau amser, ac yn gyfforddus yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae ymagwedd hyblyg, ragweithiol ac angerdd am wella gwasanaethau trwy arloesi yn hanfodol. Byddai hon yn rôl ddelfrydol i ennill profiad a datblygu sgiliau o fewn y sector Iaith Gymraeg.
Yn Ofcom, mae cynwysoldeb wrth wraidd popeth a wnânt. Maent yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg o'r diwrnod cyntaf. Maent wedi ymrwymo i gefnogi eich llwyddiant ac yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Am sgwrs anffurfiol a chopi o'r Pecyn Ymgeisydd, cysylltwch â Penodi ar 07385502078 neu e-bostiwch helo@penodi.cymru .
I wneud cais uwchlwythwch eich CV a'ch llythyr eglurhaol drwy'r linc 'YMGEISIWCH' isod.
Dyddiad cau: Hanner dydd (12:00pm) ar 27 Mehefin 2025
Bydd pob cais yn cael ei gydnabod.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Cynghorydd y Gymraeg
Cysylltiad Cynghorydd y Gymraeg