Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cynghorydd Cysylltiadau Defnyddwyr

Cynghorydd Cysylltiadau Defnyddwyr

Trosolwg:

Mae cyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd ar gyfer unigolion sy’n brofiadol ym mhob agwedd ar gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid; unigolion sydd â sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar; unigolion sy’n gallu rhoi sylw i fanylion ac sy’n meddu ar sgiliau trefnu da; ac unigolion sydd â sgiliau rhagorol o ran ymchwilio, trafod a datrys problemau.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: CCW
Cyflog: £23,704 - £27,087 yn dibynnu ar brofiad
Dyddiad Cau: 15/01/2025
Amser Cau: 17:30:00
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
Lleoliad: Birmingham neu Gaerdydd
Disgrifiad:

Cynghorydd Cysylltiadau Defnyddwyr

Lleoliad: Birmingham neu Gaerdydd

Ydych chi’n awyddus i helpu cwsmeriaid i gael y canlyniad gorau posibl ar gyfer eu cwyn ynglŷn â’u manwerthwr neu eu cwmni dŵr?

Mae cyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd ar gyfer unigolion sy’n brofiadol ym mhob agwedd ar gynnig gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid; unigolion sydd â sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar; unigolion sy’n gallu rhoi sylw i fanylion ac sy’n meddu ar sgiliau trefnu da; ac unigolion sydd â sgiliau rhagorol o ran ymchwilio, trafod a datrys problemau.

Ni yw’r llais annibynnol ar gyfer defnyddwyr dŵr yng Nghymru a Lloegr. Ers 2005, rydym wedi helpu miloedd o ddefnyddwyr i ddatrys cwynion yn erbyn eu cwmnïau dŵr, yn ogystal â chynnig cyngor a chymorth rhad ac am ddim. Caiff ein gwaith ei lywio gan ymchwil helaeth; ac rydym yn defnyddio’r ymchwil i hyrwyddo buddiannau defnyddwyr ac i ddylanwadu ar gwmnïau dŵr, llywodraethau a rheoleiddwyr.

Fel Cynghorydd Cysylltiadau Defnyddwyr, byddwch yn rhan o’r Tîm Cysylltiadau Defnyddwyr sy’n delio â dros 12,000 o gwynion ac ymholiadau bob blwyddyn gan ddefnyddwyr yng Nghymru a Lloegr sydd wedi methu â datrys eu problem gyda’u cwmni dŵr.

Byddwch yn gweithio mewn sefydliad deinamig sy’n newid yn gyflym gyda amrywiaeth wych o fuddion ar gael gan gynnwys Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Gweithio Hybrid, Opsiynau Gweithio Hyblyg, Benthyciadau Tocyn Tymor Teithio, Mynediad am ddim i EAP Sicrwydd Iechyd, gostyngiadau a chynigion sydd ar gael trwy ein platfform buddion STAR. a llawer mwy.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad - Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un ag anabledd y mae eu cais yn bodloni meini prawf sylfaenol y swydd. I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun gwarantu cyfweliad rhaid bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor. Gall yr anabledd fod yn gorfforol, synhwyraidd neu feddyliol a rhaid disgwyl iddo bara am o leiaf 12 mis. Nid oes rhaid i chi gofrestru fel person anabl i wneud cais o dan y cynllun. Os hoffech wneud cais drwy’r cynllun hwn, cwblhewch y ffurflen Hyderus o ran Anabledd o fewn y ddolen a’i dychwelyd ar wahân i recruitment@ccwater.org.uk 

Gwybodaeth ychwanegol:-

·       Rydym yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr.

·       Gall ymgeiswyr llwyddiannus weithio naill ai yn swyddfa Birmingham neu yn swyddfa Caerdydd (cyn belled ag y bydd digon o le ar gael yn swyddfa Caerdydd).

·       mae ein polisi gweithio hybrid presennol yn gosod y disgwyliad y bydd aelod llawn amser o staff yn treulio o leiaf wyth diwrnod gwaith bob mis calendr yn y swyddfa

·       Yn ystod y rhaglen ymgynefino, efallai y bydd yn ofynnol ichi fynychu’r swyddfa’n amlach nag wyth diwrnod bob mis calendr.

·       Efallai y bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ateb galwadau gan ddefnyddwyr dŵr; ac oherwydd natur y gwaith, bydd angen gweithio rhwng 08:30 – 17:00; bydd seibiannau yn cael eu trefnu ar gyfer materion yn ymwneud ag anghenion busnes.

·       Efallai y bydd yn ofynnol i’r ymgeiswyr llwyddiannus fynychu asesiadau cwynion efo Cwmnïau dŵr.

·       Bydd cynghorwyr yn cael eu cyflogi ar Lefel Gyswllt (y cyflog fydd £23,706 y flwyddyn pro rata). 

·       os cewch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, byddwch yn cael eich gwahodd i ddiwrnod agored i ymgeiswyr naill ai yn swyddfa Birmingham neu Gaerdydd yr wythnos yn dechrau 27 Ionawr 2025

·       mae cyfweliadau yn debygol o gael eu cynnal yr wythnos yn dechrau 3 Chwefror 2025.

 Cynghorwyr sy’n siarad Cymraeg yn unig

·       Byddant yn cael eu cyflogi ar Lefel Arbenigol (y cyflog fydd £25,029 y flwyddyn pro rata)

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Tiwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid (NEU Diwtor / Asesydd Gwaith Ieuenctid o dan hyfforddiant)

Rheolwr Materion Rheoleiddiol

Rheolwr Cyflawni Rhaglen Ranbarthol