Cyfrifydd Rannol-Gymwysedig neu Chyfrifydd Dan Hyfforddiant

Cyfrifydd Rannol-Gymwysedig neu Chyfrifydd Dan Hyfforddiant

Trosolwg:

Rydym yn chwilio am rywun brwdfrydig i ymuno gyda’n tîm o gyfrifwyr ac yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd ymarferol o gyfrifeg. 

Mae Llŷr James yn swyddfa hyfforddi gyda’r ACCA, ac yn cynnig cefnogaeth lawn sydd yn arwain at gymwysterau proffesiynol.  

Dyddiad Cau:     19 Mai 2025

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *
Enw'r Cyflogwr: Llŷr James Cyf
Cyflog: Mae'r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau
Dyddiad Cau: 19/05/2025 (4 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Enw Cyswllt: Bethan Vaughan
Ffôn: 01267 237754
Lleoliad: 25 Stryd Y Bont, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA31 3JS
Disgrifiad:

Rydym yn chwilio am berson i ymuno gyda’n tîm brwdfrydig yng Nghaerfyrddin. Mae gennym amryw o gleientiaid dros Gymru gyfan ac ym mhellach ac rydym yn cynnig gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd o gyfrifeg yn arwain at gymwysterau proffesiynol. Telir holl gostau’r hyfforddiant a ffioedd arholiadau. 

Disgrifiad o ddyletswyddau:-

Cyfrifydd Rhannol- Gymwysedig

·         Paratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau

·         Cwrdd gyda’n cleientiaid i drafod y cyfrifon a’u cynlluniau

·         Paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau

·         Bod yn rhan o dîm archwilio

·         Paratoi Ffurflenni TAW

·         Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol

Cyfrifydd Dan Hyfforddiant

·         Helpu i baratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau

·         Delio gydag Ymholiadau wrth ein cleientiaid

·         Helpu paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau

·         Bod yn rhan o dîm archwilio

·         Paratoi Ffurflenni TAW

·         Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol

Gofynion

·         Yn hapus i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg

·         Profiad o ddefnyddio Word ac Excel

·         Profiad gyda QuickBooks, Xero neu Sage yn fantais ond ddim yn ofynnol

·         Yn hapus yn gweithio mewn tîm ac ar ben eich hunan

·         Sgiliau cyfathrebu da

·         Prydlondeb

·         Oriau’r swyddfa yw 9-5 o Ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.

Dyddiad Cau: 19 Mai 2025  

Danfonwch eich CV at Bethan Vaughan

e-bost: bethanv@llyrjames.co.uk

Gwybodaeth Ychwanegol:

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Hysbyseb Swydd

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb *

Mwy

GWELD POPETH

Cynghorydd Polisi

Swyddog Allgymorth Addysg (Rhugl yn y Gymraeg)

Pennaeth yr Uned Iaith Gymraeg