Mae'r hysbyseb swydd hon wedi dod i ben

Cyfreithiwr

Cyfreithiwr

Trosolwg:

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â ni fel Cyfreithiwr.

Ydych chi’n Eiriolydd Llysoedd Uwch sy’n ymarfer mewn Hawliadau Atebolrwydd Sifil? Yna gwnewch gais i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Cyfreithiol medrus nawr.   
Mae’r swydd hon yn amrywiol a phrysur, ac yn ddelfrydol ar gyfer cyfreithiwr hyderus a brwdfrydig sy’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

- Rhoi cymorth a chyngor cyfreithiol i’r Prif Gwnstabl, Prif Swyddogion eraill a SCHTh.
- Cynghori a darparu cynrychiolaeth mewn perthynas â gwrandawiadau a gweithdrefnau cyfreithiol.
- Mynychu gwrandawiadau / gweithdrefnau cyfreithiol ffurfiol i gynrychioli’r Heddlu, gan gynnwys llysoedd uwch.

 Os ydych chi’n credu mai hon yw’r swydd i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan roi tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol.

Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion ynglŷn â sut i gwblhau’ch cais.

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA
Enw'r Cyflogwr: Heddlu Dyfed-Powys
Cyflog: £42,207 - £45,375
Dyddiad Cau: 29/11/2023
Amser Cau: 23:55:00
Enw Cyswllt: Rachel Adams
Lleoliad: Pencadlys Heddlu, Caerfyrddin
Disgrifiad:

Beth allwch chi ddisgwyl?

- Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
- 24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
- 24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
- Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
- Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
- Cynllun pensiwn
- Rhwydweithiau Cymorth Staff
- Cyfleoedd gweithio hyblyg
- Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
- Darpariaethau tâl salwch


Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.

Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.

Amrywiaeth a’r Gymraeg

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.

Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.  

Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Pwynt gwybodaeth:

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk

Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cliciwch ar ddolen YMGEISIWCH YMA i wneud cais am yr hysbyseb swydd ar ein gwefan

Lawrlwythiadau / Ffurflenni a Dogfennau Defnyddiol:

Recriwtio Staff Heddlu Pecyn Gwybodaeth

Police Staff Recruitment Information Pack

Lawyer

Cyfriethiwr

* Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb * YMGEISIWCH YMA

Mwy

GWELD POPETH

Warden Llety (x 2 swydd)

Swyddog Ynni Cymunedol

Rheolwr Partneriaethau Cyflogwyr / Datblygu Busnes Prentisiaethau